Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 2 Mai 2017.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ar hyn o bryd, mae 177,000 o bobl yng Nghymru yn byw efo diabetes. Mae’n bosib bod rhyw 70,000 o bobl ychwanegol yn dioddef ohono fo, ond un ai ddim yn ymwybodol neu heb gael diagnosis wedi’i gadarnhau. Erbyn 2030, mae disgwyl y bydd y nifer yna tua 300,000 o bobl. Felly, tra bod bod â diabetes yn rhywbeth mawr i’r person sy’n dioddef ohono fo, mae o’n broblem enfawr i’r gwasanaeth iechyd yn ehangach, efo ryw 10 y cant o’r gyllideb, fel rydym ni wedi’i glywed droeon yn fan hyn, yn mynd ar ddelio efo diabetes, a’r rhan fwyaf o hynny yn mynd ar drin cymhlethdodau. Mae tua un o bob pum gwely mewn ysbytai yng Nghymru yn cael eu defnyddio gan berson sydd â diabetes, a’r cymhlethdodau cysylltiedig yma sy’n creu’r effaith ddofn ar iechyd a lles pobl ac ar y defnydd o wasanaethau gofal iechyd. Ond mae hyn hefyd, wrth gwrs, yn golygu bod cyflwyno rheolaeth well, mwy effeithiol, mwy priodol, yn cynnig cyfle gwych nid yn unig i wella iechyd pobl yng Nghymru, ond hefyd i arbed arian ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus ni.
Mi ddof i at ein gwelliant cyntaf ni fan hyn: y pwysigrwydd o gynnig a chynnal cyrsiau addysg strwythuredig ar gyfer y rhai sydd newydd gael diagnosis o ddiabetes. Y llynedd, mi wnaeth Diabetes UK ddangos bod y diffyg defnydd o’r cyrsiau hyn wedi cyrraedd lefel ryfeddol. Dim ond 2 y cant o’r rhai a oedd wedi cael diagnosis diabetes math 1 yn ddiweddar ar draws Cymru a Lloegr, a dim ond 6 y cant o’r rhai a oedd wedi cael diagnosis o ddiabetes math 2, eto ar draws Cymru a Lloegr, oedd wedi mynychu cwrs. Mae’r ffigurau ar gyfer Cymru yn unig yn waeth fyth. Dim ond 1 y cant o’r rhai efo diabetes math 1, a 0.9 y cant o’r rhai efo diabetes math 2, oedd wedi cofnodi eu bod wedi mynychu rhaglen addysg strwythuredig. Mi oedd y ffigurau’n dangos hefyd mai dim ond 24 y cant o gleifion yng Nghymru efo diabetes math 1 oedd hyd yn oed wedi cael cynnig mynd ar gwrs. Yn amlwg, felly, mi ddylai’r mathau hynny o ffigurau—ac rwy’n gwybod yn iawn fod y Gweinidog yn ymwybodol ohonyn nhw—fod wedi deffro Llywodraeth Cymru.
Erbyn hyn, mae yna ddau gyfeiriad at addysg yn y datganiad blynyddol o gynnydd. Mae’r cyntaf yn cyfeirio at fynediad at addysg ddigidol i oedolion. Roedd llwyfan addysg ddigidol wedi cael ei lansio ym mis Hydref y llynedd—hynny, wrth gwrs, yn ddatblygiad i’w groesawu, ac mi fyddem ni yn annog y Llywodraeth hefyd i ystyried sut y bydden nhw’n cyrraedd y rhai sydd wedi’u heithrio yn ddigidol, neu’r rhai a fyddai’n elwa mwy o broses wyneb yn wyneb.
Mae’r ail gyfeiriad yn nodi, er bod yna rhywfaint o welliant wedi bod yn y nifer sy’n manteisio ar addysg strwythuredig ymhlith plant a phobl ifanc, nid yw mwy na 50 y cant o blant a phobl ifanc yn defnyddio’r rhaglen, efo gwaith yn dal i fod ar y gweill i adnabod beth yw’r rhwystrau i hynny. Mae hwn, rydw i’n meddwl, yn ymateb rhy araf. Mae’r manteision ariannol ac, wrth gwrs, y manteision iechyd i bobl o sicrhau addysg strwythuredig ehangach yn rhy amlwg i’w gadael i broses fynd yn ei blaen yn organig, rhyw ffordd, i chwilio am ateb. Mae angen ymateb ar fyrder gan y Llywodraeth er mwyn sicrhau mynediad i lawer iawn mwy o bobl i addysg strwythuredig.
Rydw i hefyd eisiau tynnu sylw at y methiant i sicrhau bod pob claf yn cael y set lawn o archwiliadau iechyd, a mynediad at y prosesau gofal. Mae’r adroddiad cynnydd blynyddol yn nodi bod canran y cleifion sy’n derbyn pob un o’r wyth proses ofal wedi gostwng ers y blynyddoedd blaenorol. Yn y tymor hir, mi allai hyn gael effaith ddifrifol ar eu hiechyd nhw yn gyffredinol. Mae’n rhaid i wasanaeth iechyd Cymru sicrhau bod mwy yn cael ei wneud i wella’r perfformiad yma. Felly, mae yna’n dal llawer mwy, rydw i’n meddwl, y gallai’r Llywodraeth fod yn ei wneud.
O ran penderfyniad y Gweinidog i beidio â chefnogi ein gwelliant 1 ni oherwydd ei fod yn teimlo nad yw’n adlewyrchiad teg o’r sefyllfa, mae’r ffigurau, mae gen i ofn, yn dangos bod yna broblem fawr o ran mynediad i addysg strwythurol, yn benodol. Mi ddof i’n fyr, i gloi, at ein hail welliant ni, sydd wrth gwrs yn cyfeirio at ordewdra. Rwy’n falch o gael cefnogaeth y Llywodraeth ar hwn. Mae’n amlwg yn broblem fawr—y broblem iechyd cyhoeddus fwyaf sy’n ein hwynebu ni. Rydw i’n edrych ymlaen at gydweithio â’r Llywodraeth, gobeithio, i gael strategaeth i daclo gordewdra ar wyneb Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn fuan. Felly, gadewch inni sylweddoli difrifoldeb y broblem honno a delio â hi. Ond, o ystyried y dystiolaeth gynyddol bod diabetes math 2 yn gildroadwy efo diet iach i rai pobl, mae’n ymddangos imi fod hyn yn dal i gael ei danbrisio, braidd. Mae llawer mwy, yn sicr, sydd angen ei wneud.