6. 6. Dadl: Gwasanaethau Diabetes yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 2 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 4:09, 2 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl heddiw. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Allison Williams, cadeirydd y grŵp gweithredu ar ddiabetes, a holl bartneriaid y grŵp hwnnw, oherwydd, wrth ddarllen cynllun cyflawni 2016 a datganiad blynyddol 2017, rwy’n gweld cynnydd gwirioneddol. Mae rhai ffyrdd da iawn ymlaen. Bu rhai systemau cryf a strwythuredig iawn ac yn bennaf oll—ac yn eithaf anghyffredin—mesuradwy, o weld y bu rhai gwelliannau gwirioneddol dda. Rwy'n credu bod hynny i'w groesawu, ac rwy’n rhoi pob clod i'r tîm sydd y tu ôl i hyn.

Rwy'n hapus i gefnogi'r ddau welliant a gyflwynwyd gan Blaid Cymru. Weinidog, roeddwn yn meddwl, pan wnaethoch eich datganiad agoriadol, eich bod wedi rhoi rhybudd llym iawn inni i gyd am beryglon diabetes ar lefel bersonol, beth sy'n digwydd i'r unigolyn—pa un a oes ganddo fath 1 ynteu math 2; os ydych yn blentyn a bod gennych fath 1, sut y bydd hynny yn effeithio ar eich iechyd am weddill eich oes; y ffaith y gallech, fel diabetig math 2, efallai leihau rhai o’r effeithiau a gaiff arnoch drwy newid eich ffordd o fyw. Roeddwn yn meddwl eich bod wedi amlinellu rhybudd llym iawn ynghylch yr effaith a gaiff ar gyllid cyhoeddus, yr effaith hirdymor a gaiff ar y GIG, y twf mewn diabetes, a phan, yn enwedig, ein bod yn edrych ar fath 2, y costau enfawr a’r ymdrech ddeallusol anferth a wnaethpwyd i ymdrin â rhywbeth nad oes angen inni, mewn gwirionedd, ddioddef ohono—rhywbeth nad oes, mewn nifer fawr o achosion, angen iddo fod gennym.

Felly, ar ôl darllen y diweddariad a'r cynllun cyflawni a gwrando ar yr hyn a ddywedasoch, a gwrando ar yr hyn a ddywedodd Rhun, a dweud y gwir rwyf newydd benderfynu mai dim ond un sylw sydd gennyf: pam o pam nad ydym ni’n edrych ar sut yr ydym yn gwneud addysg gorfforol mewn ysgolion? Oherwydd, Weinidog, rwy’n mynd i ddim ond dyfynnu eich geiriau chi yn y fan yma. Dywedasoch nad ydym yn llwyddo i gyflawni'r newidiadau hyn. Nid ydym yn gwneud digon o ymarfer corff. Nid ydym yn bwyta’n ddigon da. Rydych chi’n edrych ar gamau gweithredu gorfodol fel trethu siwgr—rydych chi’n gofyn a oes angen inni wneud hynny. Wyddoch chi, mae'r rhain yn rhybuddion clir. Mae gennyf i grŵp o bobl yn fy etholaeth i sydd i gyd wedi colli aelod o’u cyrff, a phob un ohonynt wedi ei golli oherwydd diabetes. Maen nhw’n tueddu i fod yn bobl canol oed a hŷn, ac yn wir mae honno'n ffordd eithaf gwael o ddiweddu gweddill eich oes, yn brwydro—ac maen nhw’n brwydro, ac, oherwydd eu bod yn ddiabetig, ac am eu bod eisoes wedi colli un aelod, maent yna mewn gwirionedd yn aml yn mynd ymlaen i golli ail aelod, oherwydd bod eu cylchrediad gwaed mor wael.

Ond yr un peth y gallai’r Llywodraeth hon ei wneud heddiw yw newid y ffordd yr ydym yn cyflwyno ymarfer corff i mewn i ysgolion. Pe byddem yn rhoi mwy o amser ar gyfer addysg gorfforol i’n plant, a phe byddem yn gwneud addysg gorfforol yn llawer mwy o hwyl, fel bod y bobl ifanc hyn wir yn ymrwymo iddo fel eu bod, wrth adael yr ysgol a mynd o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd ac o’r ysgol uwchradd i golegau ac o golegau i fod yn oedolion, bod hynny wir yn rhannol yn eu DNA—nid oes yn rhaid i’r ymarfer corff hwnnw olygu rhedeg rownd a rownd a rownd cae rygbi, hoci neu bêl-droed, ond gall yr ymarfer corff fod yn ddawnsio, gall fod yn farchogaeth ceffyl, gall fod yn loncian i fyny ac i lawr, gall fod yn wneud aerobeg, gall fod yn wneud hyfforddiant cylchol, gall fod yn chwarae rygbi, beth bynnag y bo, beth bynnag sydd o ddiddordeb iddynt.

Rwyf wedi edrych ar draws gwledydd eraill y DU ac rwyf wedi edrych ar draws gwledydd eraill Ewrop, oherwydd un o'r pethau yr wyf yn eu clywed gan y Llywodraeth yw bod y cwricwlwm yn orlawn: mae’n amhosibl gwneud lle i awr arall o addysg gorfforol i blant yn yr ysgolion. Yn syml, nid yw hynny’n wir. Gadewch inni fod yn wirioneddol glir: rydym yn cael rhai o'r canlyniadau mwyaf digalon yn ein system addysg, ac eto rydych yn edrych ar ysgolion eraill a gwledydd eraill ac maen nhw’n rhoi dwy neu dair awr yr wythnos i addysg gorfforol, i ymarfer corff iach, i addysgu pobl am ffordd o fyw gadarnhaol a all barhau.

Felly, dyma ni, yn treulio cymaint o amser, arian ac ymdrech i geisio datrys problem sydd, a dweud y gwir, pe byddem yn dechrau’r holl ffordd yn ôl yn y dechrau, efallai na fyddai angen i’r broblem honno fod gennym hyd yn oed. Felly, fy mhle i i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yw i’r holl waith gwych hwn—daliwch ati, ond, wir, cysylltwch â’r Ysgrifennydd addysg, siaradwch â'ch cydweithwyr, a gadewch inni wneud newid sylfaenol, oherwydd efallai na allwn achub pobl sydd yn eu 30au, eu 40au a’u 50au heddiw, ond bobol bach, os gallwn ni helpu’r plant wyth, naw a 10 mlwydd oed a'r rhai yn eu harddegau a’u hugeiniau cynnar heddiw, efallai y gallem osgoi’r broblem ofnadwy hon yr ydych chi eich hun wedi’i hamlinellu mor glir fel bom amser sy’n aros i ffrwydro yn ein GIG.