– Senedd Cymru am 4:36 pm ar 2 Mai 2017.
Galwaf am bleidlais ar welliant 1 i’r ddadl ar wasanaethau diabetes yng Nghymru yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 20, neb wedi ymatal, 28 yn erbyn. Felly, ni chaiff gwelliant 1 ei dderbyn.
Galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 47, neb wedi ymatal, un yn erbyn. Felly, caiff gwelliant 2 ei dderbyn.
Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Cynnig NDM6292 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes wedi'i ddiweddaru a'r meysydd blaenoriaeth a amlinellwyd yn yr adroddiad blynyddol diweddar i:
a. wella safon gofal diabetes ym mhob rhan o'r system iechyd a lleihau'r amrywiaeth o ran arferion gofal;
b. cefnogi'r sector gofal sylfaenol i reoli diabetes a chwblhau prosesau gofal allweddol;
c. galluogi pobl sydd â diabetes i reoli eu cyflwr yn well a lleihau'r perygl y byddant yn cael cymhlethdodau; a
d. defnyddio gwybodeg i sicrhau gwell integreiddio o ran gwasanaethau i bobl sydd â diabetes.
2. Yn cydnabod mor bwysig yw mynd i'r afael â gordewdra o ran atal diabetes math 2.
Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 49, neb wedi ymatal, un yn erbyn. Felly, caiff y cynnig fel y'i diwygiwyd ei dderbyn.
Dyna ddiwedd trafodion heddiw. Diolch.