Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 3 Mai 2017.
Wel, Llywydd, credaf ei bod bob amser yn well pan fo’r ymgeiswyr mewn etholiadau lleol yn uniaethu â’r ardal honno a’u bod yn gyfarwydd i’r bobl leol. Eisoes, ceir cyfres o brofion cymhwyso y mae’n rhaid i bobl eu pasio, gan gynnwys byw, gweithio, neu fod â busnes yn yr ardal, a chyfrifoldeb y swyddogion canlyniadau yw gwneud yn siŵr fod pob ymgeisydd yn bodloni’r meini prawf hynny. Ond gwna Mike Hedges bwynt diddorol, ac rwy’n eithaf sicr y bydd pobl yn ymwybodol o hynny wrth fwrw eu pleidlais ddydd Iau.