Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 3 Mai 2017.
Wel, Llywydd, mae’r ffordd y lluniwyd y Papur Gwyn yn caniatáu i’r awdurdodau lleol eu hunain wneud cyfres o ddewisiadau—pobl sy’n adnabod eu hardaloedd, ac sy’n gallu llunio’r systemau mwyaf addas ar gyfer eu hanghenion a’u hamgylchiadau. Ac mae’r egwyddor honno’n rhan annatod o’r Papur Gwyn, a chredaf ei bod yn hollol iawn ei bod yn berthnasol i’r dewis o ddull etholiad, fel y mae’n berthnasol i agweddau eraill.
O ran y pwynt cyntaf a wnaeth Simon Thomas, bydd yn gwybod bod y Papur Gwyn hefyd yn cynnwys argymhelliad fod yn rhaid i unrhyw un sy’n sefyll etholiad ac sy’n aelod o blaid wleidyddol sicrhau bod yr etholwyr lleol yn ymwybodol o’r cysylltiad hwnnw, hyd yn oed pan fyddant yn dewis sefyll fel ymgeisydd annibynnol, a chredaf fod hynny’n gywir a phriodol am yr union resymau a amlinellodd yn gynharach.