<p>Pwerau Trethu</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 3 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:37, 3 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, Dirprwy Lywydd, un o’r ffyrdd y gobeithiaf y byddwn yn defnyddio ein cyfrifoldebau cyllidol newydd yw gallu edrych ar y rhyngweithio rhwng y gwahanol fathau o drethi yng Nghymru. Felly, mae gennym drethi annomestig ar gyfer busnesau lleol, ond mae gennym fathau eraill o drethi, a bu’r Pwyllgor Cyllid yn edrych yn ofalus iawn wrth ystyried y dreth trafodiadau tir, er enghraifft, ar y ffordd y mae’r dreth trafodiadau tir yn effeithio ar y sector masnachol hefyd. Yn hanesyddol, mae Llywodraethau wedi trin y ffrydiau treth gwahanol hyn fel pe na bai fawr o ryngweithio rhyngddynt. Bydd gennym gyfres feinach o gyfrifoldebau cyllidol yng Nghymru, ond un o’r cyfleoedd y bydd hynny’n eu rhoi i ni yw’r gallu i edrych yn fanylach ar y ffordd y maent yn rhyngweithio â’i gilydd, yn arbennig er mwyn gweld sut y maent wedyn yn effeithio ar fusnesau ac ar y stryd fawr.