Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 3 Mai 2017.
Ie, wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn cydnabod y cynllun rhyddhad wedi’i dargedu ar gyfer y stryd fawr, er bod rhai o fusnesau’r stryd fawr yn dal i synnu nad ydynt yn gymwys ar ei gyfer. Ac mae’r rhai a allai fod yn gymwys yn dal i gael peth anhawster gan nad yw’r ddolen ar wefan Llywodraeth Cymru ar gyfer y wybodaeth honno yn gweithio o hyd. Ar gyfer y rhai sydd efallai ychydig yn siomedig gyda’r diffyg amrywiaeth o ran y cymorth a gynigir, a fyddech yn barod i ystyried ymrwymiad maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig i ostwng y dreth incwm yng Nghymru, yn hytrach nag ychwanegu’n unig at y toriadau i’r dreth incwm a gyflwynwyd gan y Prif Weinidog Ceidwadol yn San Steffan, sydd wedi bod o fudd i lawer iawn o weithwyr yng Nghymru, wrth gwrs, ond hefyd i gynnig cymorth gwirioneddol i’r cyflogwyr ar y stryd fawr, sy’n aml iawn mewn partneriaethau neu’n unig fasnachwyr, ac nad ydynt, wrth gwrs, yn gallu manteisio ar gyfradd isel arall y Ceidwadwyr ar gyfer y dreth gorfforaeth?