Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 3 Mai 2017.
Mi rydych chi wedi cyfeirio heddiw, ac mi gyfeiriodd y Prif Weinidog ddoe, at yr ‘issues’ yma sydd yng Nghymru ynglŷn â dileu contractau dim oriau, ac rydych chi wedi dadlau yn y gorffennol y byddai cynnwys gwelliannau i ddileu contractau dim oriau yn y Bil gwasanaethau cymdeithasol wedi gallu tanseilio’r Bil gan ei wneud o’n agored i her yn yr Uchel Lys.
Ond, mi fyddai hi wedi bod yn bosib i chi gyflwyno Bil ar wahân, yn benodol am gytundebau dim oriau o fewn y sector gofal—mae gwasanaethau cyhoeddus wedi’u datganoli—ond, yn hytrach, rydych chi wedi pleidleisio yn erbyn dileu cytundebau dim oriau ar salw achlysur. Pam nad ydych chi wedi chwilio am ffyrdd a fyddai yn eich galluogi chi i ddileu cytundebau dim oriau ym maes gofal, gan roi parch i’r gweithwyr hollbwysig yma?