<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 3 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:48, 3 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, Dirprwy Lywydd, yn y Cynulliad blaenorol, nid oedd y Llywodraeth yn barod i weld Bil cyfan yn cael ei beryglu yn sgil gwelliannau a gyflwynai’r gwrthbleidiau ar y mater hwn yn unswydd er mwyn tynnu sylw, ac mae’n gwbl anghywir—yn gwbl anghywir—i ddweud nad oes unrhyw gamau pellach wedi cael eu cymryd. Mae’r Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol a hebryngais drwy’r Cynulliad Cenedlaethol yn darparu pwerau penodol i Weinidogion Cymru ymateb i’r defnydd o gontractau dim oriau ym maes gofal cymdeithasol, a gwn fod fy nghyd-Aelod Rebecca Evans yn llawn fwriadu cyflwyno argymhellion cyn bo hir.