<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 3 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:50, 3 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Dirprwy Lywydd, byddwn yn cadw llygad barcud ar y ffordd y mae’r arian a ddarparwyd at y diben hwn ac ar sail treialu arbrofol o’r fath—y ffordd y mae’n cael ei ddefnyddio ledled Cymru. Rwy’n fodlon â’r ffaith y bydd gwahanol awdurdodau lleol yn dewis defnyddio’r arian mewn ffyrdd gwahanol, ond rwy’n dweud yn glir iawn wrthynt fy mod yn disgwyl i bob awdurdod lleol ddefnyddio’r arian mewn ffordd sydd â chysylltiad uniongyrchol â’r diben y cafodd ei ddarparu ar ei gyfer. Byddwn yn mynd ar drywydd y mater hwnnw gyda’r holl awdurdodau lleol yng Nghymru dros y 12 mis nesaf.