<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 3 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:49, 3 Mai 2017

Mae’n ymddangos i mi fod yna fwlch anferth rhwng yr hyn y mae Llafur yn ei ddweud a’r hyn y mae Llafur yn ei wneud. Mae yna fwlch rhwng llywodraeth Lafur Caerdydd ac arweinwyr Llafur yn Lloegr, a hefyd bwlch rhwng yr hyn y mae Gweinidogion ym Mae Caerdydd yn ei ddweud a beth y mae cynghorau Llafur ar lawr gwlad yn ei wneud. Rwy’n sôn yn benodol yn fan hyn am gynlluniau i annog pobl i siopa ar y stryd fawr a’r arian sydd wedi’i glustnodi i gynghorau sir i gefnogi mentrau parcio—£3 miliwn i gyd—yn sgil cytundeb rhwng Plaid Cymru a chithau. Yn anffodus, mae cyngor Nedd Port Talbot yn dewis defnyddio’r £133,000 a oedd i fod i helpu’r stryd fawr i ‘offset-io’ gorwariant ar barcio, yn erbyn y cyfarwyddyd penodol a roddwyd gan eich Llywodraeth chi. A ydych chi’n cytuno fod hyn yn mynd yn hollol groes i’w bwriad ac yn ddefnydd cwbl aneffeithiol o’r pot penodol hwn o arian?