Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 3 Mai 2017.
Gan edrych ar y gyfnewidfa drafnidaeth a nodwyd ar gyfer y Sgwâr Canolog, sy’n rhan hanfodol o’r strategaeth drafnidiaeth gynaliadwy ar gyfer prifddinas-ranbarth Caerdydd, tybed a allwch roi taw ar beth o’r nonsens y mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn ei ledaenu’n hapus braf ynglŷn â dymchwel yr orsaf fysiau heb unrhyw gynlluniau i’w hailadeiladu, a dweud wrthym nad oes arian i godi cyfnewidfa newydd ar gyfer bysiau/rheilffyrdd ysgafn, sydd wrth gwrs yn gwbl hanfodol i sicrhau newid moddol, mynd i’r afael â llygredd aer a galluogi pobl sy’n cyrraedd ar drenau i gwblhau eu teithiau, boed hynny ar feiciau, ar fysiau neu ar reilffyrdd ysgafn. Felly, tybed a allwch roi taw ar y sibrydion enllibus sydd wedi cael eu lledaenu, nad oes unrhyw arian ar gael i ailadeiladu’r orsaf fysiau, a dweud wrthym pa gyfraniad y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau y gall y cyngor Llafur newydd gwblhau’r darn hanfodol hwn o’r jig-so mewn perthynas â thrafnidiaeth gynaliadwy.