<p>Bargen Ddinesig Prifddinas-ranbarth Caerdydd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 3 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:05, 3 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn atodol. Mae bob amser wedi ymddangos i mi, Dirprwy Lywydd, fod Caerdydd, fel dinas, yn ffodus iawn fod y gyfnewidfa fysiau a’i phrif orsaf drenau’n ddigon agos at ei gilydd i allu creu’r math o gysylltiad trafnidiaeth y cyfeiriodd ato. Mae awdurdod trafnidiaeth rhanbarthol yn rhan annatod o fargen ddinesig prifddinas Caerdydd er mwyn sicrhau y gellir cydgysylltu a chyflunio’n briodol y ffordd y mae trafnidiaeth yn rhedeg ar draws prifddinas-ranbarth Caerdydd yn ei gyfanrwydd. Rwy’n ffyddiog fod yr orsaf fysiau newydd yng Nghaerdydd wedi’i chynllunio’n briodol, wedi’i hariannu’n briodol ac y bydd yn darparu gwasanaeth ardderchog, i ddinasyddion Caerdydd ac i’r bobl o weddill Cymru sy’n dod i’n prifddinas.