3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 3 Mai 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’r Llywydd wedi dangos cryn ddoethineb wrth ddewis cwestiynau, fel arfer.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ei benderfyniad i gymeradwyo defnyddio proffylacsis cyn-gysylltiad yng Nghymru fel rhan o astudiaeth? TAQ(5)0155(HWS)
Diolch am y cwestiwn. Rwyf wedi trafod y fframwaith ar gyfer yr astudiaeth gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, yn ogystal â swyddogion o Lywodraeth Cymru. Cyhoeddais ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn dilyn cyfarfod a gynhaliwyd ddoe gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymddiriedolaeth Terrence Higgins. Croesawaf y gefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Terrence Higgins i helpu i hyrwyddo mynediad at Truvada, y feddyginiaeth brand proffylacsis cyn-gysylltiad sydd ar gael, a’r pecyn gofal ehangach a fydd ar gael drwy gydol yr astudiaeth.
A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, a diolch iddo hefyd am y penderfyniad a wnaeth yn ystod y dyddiau diwethaf, a diolch iddo am yr amser y mae ef a’i swyddogion wedi’i roi i mi ac i eraill ar gyfer trafod y mater pwysig hwn?
Gall canlyniadau diagnosis o HIV o ran iechyd, perthynas emosiynol ac yn gymdeithasol fod yn ddifrifol iawn, ac er bod llawer iawn o bobl yn byw yn hŷn gyda meddyginiaeth HIV, mae’n ddyletswydd arnom i sicrhau bod gan bobl Cymru yr arfau angenrheidiol i reoli eu hiechyd yn ddoeth ac i atal trosglwyddo HIV. Mae effeithiolrwydd clinigol Truvada wedi’i brofi’n dda—rhwng 86 a 100 y cant o effeithiolrwydd i atal trosglwyddo HIV fel rhan o ystod o fesurau rhyw diogel. Felly, croesawaf y penderfyniad a wnaeth.
Mae wedi crybwyll y bydd hyn yn cael ei gyflwyno ledled Cymru. A all gadarnhau y bydd ar gael ledled Cymru o’r cychwyn cyntaf, gan gofio bod clinigau meddygaeth genhedlol-wrinol wedi’u dosbarthu’n anghyson, os mynnwch, ledled Cymru? Yn ail, o safbwynt y claf, a fydd cymryd rhan yn yr astudiaeth yn newid y profiad hwnnw i’r claf? A fydd unrhyw ddisgwyliadau ychwanegol mewn perthynas â’r claf, y tu hwnt i’r disgwyliadau clinigol? Yn drydydd, pa gamau y mae’n rhagweld a gymerir i godi ymwybyddiaeth ymhlith cymunedau sydd mewn perygl arbennig o drosglwyddo HIV ynglŷn ag argaeledd proffylacsis cyn-gysylltiad ar y GIG yng Nghymru?
Diolch am y gyfres honno o gwestiynau. Credaf eich bod yn iawn o ran codi ymwybyddiaeth, i gychwyn, fod her go iawn i barhau â’r neges ynglŷn â realiti HIV a lleihau nifer y bobl â HIV yng Nghymru. Mae gennym bobl bob blwyddyn sy’n dal HIV yng Nghymru o hyd, felly mae gwir angen gwella ein gallu i leihau nifer y bobl sydd â HIV, a gwella’r driniaeth a’r gofal ar eu cyfer hefyd.
Mae rhywbeth yma sy’n ymwneud â’r penderfyniad a’r ymwybyddiaeth ynglŷn â hyn, gan ein bod yn cydnabod bod yna grwpiau o bobl sy’n debygol o fod mewn perygl o ddal HIV, neu’n wir, a allai fod wedi’i ddal ac sy’n amharod i ofyn am gymorth. Felly, dylai cynnal astudiaeth, a’r ffordd y cynhelir yr astudiaeth honno, ein helpu i ddeall faint o bobl sydd mewn perygl, a manteision economaidd proffylacsis cyn-gysylltiad hefyd mewn gwirionedd. Dyna ran o’r rheswm dros yr astudiaeth, ond rwyf hefyd yn ei gweld yn rhan o gyd-destun ehangach y gofal a ddarperir. Rwy’n disgwyl i’r astudiaeth ddechrau cyn diwedd mis Gorffennaf eleni, felly bydd yn dechrau mewn ychydig fisoedd. Gallaf roi sicrwydd i chi y bydd ar gael ledled Cymru gyfan; ni fydd yn cyrraedd ardaloedd penodol yn gynt neu’n hwyrach, felly mae’n ddull Cymru gyfan go iawn. Bydd proffylacsis cyn-gysylltiad ar gael i bob unigolyn lle y bo hynny’n briodol yn glinigol—heb unrhyw rwystrau ychwanegol i’w goresgyn.
Credaf ei bod hefyd yn bwysig egluro y bydd hyn yn cael ei wneud yn bennaf drwy glinigau meddygaeth genhedlol-wrinol. Gwn fod heriau yng nghanolbarth Cymru yn benodol o ran argaeledd a mynediad atynt, ac mae hynny’n rhan o’r her wrth gynllunio hyn, ac wrth sicrhau bod gan bobl fynediad i le addas i gael y gofal hwnnw yn ogystal â chymorth dilynol. Ond dyna ble y caiff y rhan fwyaf o bobl afael ar gymorth a chyngor ynglŷn â’r meysydd hyn. Mae pobl yn llai tebygol o fynd at eu meddyg teulu am y math hwn o gymorth a chyngor. Felly, dyna pam rydym yn gwneud yn siŵr, wrth gynllunio’r astudiaeth, mai clinigau meddygaeth genhedlol-wrinol fydd y prif fan ar gyfer presgripsiynu yn ogystal â’r driniaeth ddilynol, gofal a phrofi, a dealltwriaeth ynglŷn â glynu at y driniaeth hefyd.
Edrychaf ymlaen at dderbyn paramedrau clir ynglŷn â’r astudiaeth, sut y caiff ei chynnal ac asesiad o werth ac effaith yr astudiaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ogystal â’r hyn a ddysgir ynglŷn ag ymddygiad yr unigolion sy’n wynebu’r perygl mwyaf. Yn amlwg, gallwn ddysgu llawer o hyn, ac edrychaf ymlaen at allu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau cyn y toriad, gobeithio, ynglŷn â ble rydym ar ddechrau’r astudiaeth benodol hon—bydd hynny’n rhan arall o’r broses o godi ymwybyddiaeth—ond yn benodol, yr hyn a wnawn gyda mudiadau trydydd sector fel Ymddiriedolaeth Terrence Higgins ac eraill i godi ymwybyddiaeth ymhlith y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf hefyd. Cwestiynau perthnasol iawn, felly, y byddaf yn bendant yn eu hystyried wrth i ni ddatblygu’r gwaith.
Dangosodd canlyniadau’r astudiaeth PROUD a gynhaliwyd yn y DU yn 2015 i werthuso effeithiolrwydd proffylacsis cyn-gysylltiad HIV, neu PrEP, ymhlith grŵp risg uchel o ddynion hoyw a deurywiol, fod defnydd dyddiol ohono yn lleihau nifer yr heintiau HIV 86 y cant yn y grŵp hwn, ac o’i gymryd yn y ffordd gywir, roedd ei effeithiolrwydd bron yn 100 y cant. O gofio hynny, sut rydych yn ymateb, o ystyried eich sylw ynglŷn â’ch ymgysylltiad ag Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, i’w galwad i ddarparu hwn ochr yn ochr â’u hymyriadau atal eraill, megis defnyddio condomau, newid ymddygiad, a phrofion HIV rheolaidd?
Wel, rwy’n fwy na pharod i gadarnhau fy ymateb. Dyna’n union y mae Jeremy Miles wedi galw amdano, dyna’n union y mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins wedi galw amdano, ac mae’n rhan o’r hyn y bydd yr astudiaeth yn edrych arno. Nid proffylacsis cyn-gysylltiad mewn ffordd ynysig yn unig fydd hyn—mae’n ymwneud â’i weld yn ei gyd-destun, fel rhan o’r gwaith y dymunwn ei wneud i geisio sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn osgoi dal HIV. Felly, mae’n rhan bwysig o’n sefyllfa ar hyn o bryd. Ac mae’n ymwneud hefyd â deall gwir lefel cyfraddau achosion yng Nghymru, gan y credwn ein bod yn ôl pob tebyg yn eu tangyfrif ac yn eu tanamcangyfrif. Felly, mae yna heriau gwirioneddol rydym yn eu deall oherwydd y cyngor a gawsom gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru. Ond rydym yn gobeithio eu datrys drwy gynnal yr astudiaeth hon a sicrhau bod proffylacsis cyn-gysylltiad ar gael go iawn ledled y wlad i bawb lle y bo’n briodol yn glinigol. Ac mae hwnnw’n gam pwysig iawn ymlaen i ni yma yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn. A daw’r ail gwestiwn amserol y prynhawn yma, eto i’w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, gan Darren Millar.