Part of the debate – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 3 Mai 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel yr amlinellais yn fy natganiad i’r Siambr ar 25 Ionawr, mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ar beth yw’r prif faterion y dylem fod yn edrych arnynt, ac rydym yn cynllunio ein rhaglen waith yn unol â hynny. Mae’r adroddiad rydym yn ei drafod heddiw yn enghraifft arall o’r pwyllgor yn cynnal ymchwiliad a nodwyd yn ein hymgynghoriad ar flaenoriaethau rhanddeiliaid yr haf diwethaf.
Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr sydd â’r cyfraddau cyrhaeddiad isaf o unrhyw grŵp ethnig yng Nghymru. Ni lwyddodd ond 16 y cant ohonynt yn unig i gyrraedd trothwy cynwysedig lefel 2—h.y. pump neu ragor o bynciau TGAU gradd A* i C gan gynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg—rhwng 2013 a 2015. Mae’r ystadegau a gyhoeddwyd yn ystod ymchwiliad y pwyllgor yn dangos rhywfaint o welliant sydd i’w groesawu, i 24 y cant rhwng 2014 a 2016, er bod y bwlch rhyngddynt a phob disgybl yn dal yn rhy fawr ar 35 pwynt canran. Mae’r bwlch rhyngddynt a disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd eu hunain yn grŵp difreintiedig, yn 7 pwynt canran.
Mae dysgwyr duon a lleiafrifoedd ethnig yn grŵp llai unffurf ac mae’r darlun cyrhaeddiad yn amrywio’n sylweddol. Mae llawer o grwpiau lleiafrifol yn perfformio’n well na’u cyfoedion, ond mae cyrhaeddiad rhai grwpiau, megis grwpiau Caribïaidd du, Affricanaidd du a Charibïaidd cymysg yn is na’r cyfartaledd. Câi’r grwpiau hyn o ddysgwyr eu cefnogi’n flaenorol o dan ddau grant wedi’u clustnodi a delid i awdurdodau lleol—y grant plant Sipsiwn a phlant Teithwyr a’r grant cyflawniad lleiafrifoedd ethnig. Dau o 11 o grantiau wedi’u clustnodi oedd y rhain a gafodd eu cyfuno’n grant gwella addysg newydd a gyflwynwyd yn ystod blwyddyn ariannol 2015-16.
Caiff y grant gwella addysg, fel y’i gelwir, ei weinyddu gan y pedwar consortiwm rhanbarthol. Roedd bwriad Llywodraeth Cymru ar y pryd yn un i’w groesawu. Roedd yn awyddus i greu mwy o hyblygrwydd a chreu arbedion gweinyddol. Fodd bynnag, ceir pryder clir pa un a oes yr un lefel o gefnogaeth erbyn hyn ar gyfer dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma, Teithwyr a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig, a phryderon penodol ynglŷn â sut y caiff effaith y newid yn y cyllid ei monitro a’i gwerthuso.
Diffyg monitro a gwerthuso priodol oedd y pryder mwyaf a fynegwyd dro ar ôl tro yn y dystiolaeth a gyflwynwyd i’r pwyllgor. Roedd y grantiau blaenorol yn ddarostyngedig i systemau monitro ac atebolrwydd cadarn. Mae’r rhain wedi cael eu colli gyda dyfodiad y grant gwella addysg. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi cryn bwyslais ar rôl y consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol eu hunain yn monitro a gwerthuso effaith. Fodd bynnag, ni welodd y pwyllgor lawer o dystiolaeth fod hyn yn digwydd. Yn wir, roeddem yn siomedig gyda’r dystiolaeth a gynigiwyd gan y consortia ar sut y maent yn monitro defnydd ac effaith y grant gwella addysg, rhywbeth a gafodd ei gydnabod gan Ysgrifennydd y Cabinet ei hun mewn tystiolaeth lafar. Dof yn ôl at fonitro a gwerthuso yn y man.
Croesawaf yn fawr yr agwedd gadarnhaol sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet tuag at ein hymchwiliad yn ei hymateb i’n 14 argymhelliad. Rwy’n hynod o falch ei bod wedi derbyn pob un o’n hargymhellion, naill ai’n llawn neu mewn egwyddor, ac eithrio un, a oedd yn galw am asesiad effaith wedi’i ddiweddaru o’r penderfyniad i gyfuno’r grantiau. Rwy’n siomedig fod yr argymhelliad hwn wedi’i wrthod, gan fod cryn feirniadaeth wedi bod o gadernid yr asesiad effaith gwreiddiol.
Yr hyn sy’n fy mhoeni i a’r pwyllgor, Llywydd, yw’r ffaith na ellir gwneud unrhyw asesiad clir pa un a yw’r newid i un grant wedi cael unrhyw effaith gadarnhaol neu negyddol. Mae cyfanswm gwerth y grant gwella addysg yn 2017-18 oddeutu 13 y cant yn llai na’r flwyddyn ddiwethaf o grantiau wedi’u clustnodi yn 2014-15. Nid ydym yn gwybod yn union faint o’r grant gwella addysg sy’n cael ei wario ar blant Sipsiwn, Roma, Teithwyr a phlant o leiafrifoedd ethnig gan nad yw gwariant yn cael ei olrhain neu ei fonitro yn y modd hwn mwyach. Ein hargymhelliad cyffredinol, felly, yw y dylai Llywodraeth Cymru barhau i adolygu’r model cyllido y mae’n ei ddefnyddio i gefnogi’r dysgwyr hyn ac adrodd yn ôl cyn diwedd y Cynulliad hwn.
Yn y cyfamser, mae’r pwyllgor wedi argymell nifer o welliannau i’r ffordd y mae’r grant gwella addysg yn cael ei fonitro a’i werthuso. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau manylach ar sut y gellir defnyddio’r grant er budd dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma, Teithwyr a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig y tu hwnt i’r hyn sy’n bodoli ar hyn o bryd, ac nid ydynt yn llawer mwy nag amcanion lefel uchel sy’n cyfeirio at y cynllun gwella ‘Cymwys am oes’.
Rydym yn pryderu na chafwyd digon o gynnydd ar gynhyrchu fframwaith canlyniadau y bwriadwyd iddo lywio’r modd y caiff y grant gwella addysg ei wario, ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gael gafael llawer cadarnach ar fonitro a gwerthuso er mwyn sicrhau bod consortia ac awdurdodau lleol yn gwybod yn union beth a ddisgwylir.
Rwy’n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i sefydlu fframwaith canlyniadau mwy cadarn yn 2017-18. Rwyf hefyd yn croesawu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad y dylai Estyn gynnal adolygiad thematig o’r pwnc hwn. Fodd bynnag, mae gan y pwyllgor amheuon ynglŷn â phwyslais Llywodraeth Cymru ar ddiwallu anghenion grwpiau penodol o ddysgwyr drwy fabwysiadu ymagwedd sy’n canolbwyntio ar bob disgybl tuag at wella ysgolion. Fel y mae tystion wedi’i ddweud wrthym, nid yw cynhwysiant yn golygu trin pawb yr un fath. Rhaid i chi gydnabod bod pobl yn wahanol a bod ganddynt wahanol anghenion.
Credwn fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gryfhau ei ffocws yn sylfaenol a thargedu cyllid yn fwy penodol ar ddysgwyr Sipsiwn, Roma a Theithwyr a grwpiau ethnig sydd â chyrhaeddiad is na’r cyfartaledd. Rydym wedi gwneud dau argymhelliad ar hyn, ac yn disgwyl gweld mwy o gyfeirio at y grwpiau hyn yn y diweddariad o’r cynllun ‘Cymwys am oes’ ac yn y strategaeth ‘Ailysgrifennu’r dyfodol’ sydd i fod i gael ei chyhoeddi cyn bo hir. I gloi, Llywydd, hoffwn bwysleisio i’r Aelodau nad yw hwn yn fater y gellir mynd i’r afael ag ef drwy ymagwedd ‘un ateb sy’n addas i bawb’ tuag at welliant addysgol. Mae’n rhaid i gymorth ac ymyriadau gael eu teilwra ar gyfer y dysgwr os ydym am helpu pob plentyn a pherson ifanc i gyflawni eu potensial llawn. Diolch.