Part of the debate – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 3 Mai 2017.
A gaf fi ddiolch i’r Cadeirydd am ei haraith agoriadol a’i chanmol am y ffordd y mae hi wedi arwain yr ymchwiliad hwn, a chofnodi fy niolch hefyd i’r clercod a’r tystion a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor? Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod wedi ymgymryd â’r gwaith hwn, a dyna pam y cytunodd y pwyllgor y dylai fod yn flaenoriaeth gynnar o ran rhaglen waith y pwyllgor. Rwy’n ymwybodol iawn, ac rwy’n aml wedi beirniadu’r nifer fawr o grantiau sydd wedi bod ar gael, yn enwedig pan oeddwn yn Gadeirydd ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac sydd wedi cael eu defnyddio gan y Llywodraeth er mwyn cyfarwyddo a chyflawni eu hamcanion polisi. Felly, gallaf ddeall yn iawn pam y ceisiodd y Llywodraeth gyfuno’r grantiau hyn er mwyn lleihau’r baich gweinyddol ar awdurdodau addysg lleol, ac ar Lywodraeth Cymru yn wir o ran bwrw ymlaen â phethau. Ond rwy’n pryderu ynglŷn â diffyg dilyniant wrth i Lywodraeth Cymru geisio penderfynu a yw’r canlyniadau yr oedd yn awyddus i’w cyflawni yn dal i gael eu gwireddu ar lawr gwlad mewn gwirionedd. Dyna pam y gwnaethom y gwaith hwn fel pwyllgor, ac roeddwn yn hapus iawn i’w gefnogi.
Gwyddom nad yw cyrhaeddiad addysgol, yn enwedig mewn cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, mor dda ag y dylai fod. Mae wedi gwella’n ddiweddar, sy’n beth cadarnhaol, ond ceir bwlch cyrhaeddiad anferth rhyngddynt a’u cyfoedion mewn ysgolion o hyd, ac nid yw hynny’n ddigon da. Mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â hynny. A dyna yw diben rhan o’r grant hwn, ynghyd â’r angen i gau’r bwlch i rai o’r gwahanol grwpiau lleiafrifoedd ethnig a’u cyrhaeddiad addysgol a’u cyflawniad hwy hefyd.
Rwy’n credu mai’r hyn a’m synnodd yn fawr oedd y ffaith fod gennym ddarpariaeth dameidiog yng Nghymru sy’n anghyson iawn. Fe’m calonogwyd yn fawr gan rywfaint o’r dystiolaeth a gawsom o Went, lle y mae’n eithaf amlwg fod ganddynt safon aur i bob pwrpas o ran y gefnogaeth y gallant ei darparu yn enwedig ar gyfer y rhai o leiafrifoedd ethnig sy’n symud i mewn i’r ardal. Ac fe’m calonogwyd yn fawr gan y ffaith fod hynny’n ychwanegu gwerth sylweddol ac yn cefnogi ysgolion unigol, yn enwedig lle nad oes ganddynt arbenigedd ar gael iddynt. Ond roedd y sefyllfa’n wahanol iawn mewn rhannau eraill o Gymru, ac rwy’n credu ei bod yn deg dweud nad yw rhai o’r consortia rhanbarthol yn gwybod yn iawn beth sy’n digwydd yn eu hardaloedd ac mai blaenoriaeth isel iawn a roddwyd ganddynt i hyn. Roedd hynny’n peri pryder mawr yn wir.
Roeddwn yn arbennig o bryderus ynglŷn â’r dystiolaeth a gawsom gan Estyn hefyd. Roedd Estyn yn ddefnyddiol iawn o ran darparu tystiolaeth i ni; maent yn amlwg wedi gwneud gwaith yn y gorffennol, yn enwedig ar gymuned y Sipsiwn/Teithwyr a’u lefelau cyrhaeddiad. Ond roedd yn gwbl amlwg eu bod wedi cynhyrchu un neu ddau o adroddiadau gydag argymhellion clir ynddynt, ond nad oeddent wedi gwneud gwaith dilynol ar yr adroddiadau hynny. Nawr, a bod yn onest, mae’n gwbl annerbyniol nad yw’r arolygiaeth addysg wedi gwneud gwaith dilynol ar eu hargymhellion. Roeddent yn dweud mai mater o adnoddau ydoedd ac mai dyna pam na wnaethant waith dilynol arno, ond a dweud y gwir, credaf nad oes esgus dros fethiant yr arolygiaeth i fynd ar drywydd y mater yn fwy egnïol gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau addysg lleol. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa rôl y mae’n disgwyl i Estyn ei chwarae yn y dyfodol o ran sicrhau bod peth o gyfeiriad polisi’r Llywodraeth yn cael ei gyflwyno ar lawr gwlad mewn gwirionedd a’u bod yn ysgwyddo’u cyfrifoldeb fel arolygiaeth i wneud yn union hynny.
Un o’r pethau eraill y cyfeirir ato yn yr adroddiad yw’r diffyg cefnogaeth i bobl ifanc dros 16 sydd am barhau â’u haddysg. Gwyddom fod cael cymheiriaid hŷn yn aml yn ffactor pwysig iawn wrth gynorthwyo pobl ifanc i ymddiddori yn eu haddysg, ac unwaith eto, nid yw pobl ifanc o gefndiroedd cymunedau Sipsiwn/Teithwyr yn enwedig yn camu ymlaen at addysg bellach neu addysg uwch, ac eto nid oes unrhyw gymorth penodol ar eu cyfer ar hyn o bryd. Byddai gennyf ddiddordeb mawr, Ysgrifennydd y Cabinet—a gwn fy mod wedi crybwyll hyn wrthych yn ystod trafodion y pwyllgor—ond byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gwybod a oes unrhyw beth y gellir ei wneud o fewn yr adolygiad o gymorth i fyfyrwyr sydd ar y gweill ar hyn o bryd i dargedu’r grwpiau hyn yn benodol er mwyn annog cyfranogiad gweithgar mewn addysg ôl-16 gan bobl ifanc o gefndiroedd du yn benodol, cefndiroedd Affro-Caribïaidd, a’r cymunedau Sipsiwn/Teithwyr—y rhai sydd ymhell ar ei hôl hi o ran rhai o’r canlyniadau penodol hyn.
Ac rwy’n credu y bydd yr holl argymhellion yn yr adroddiad, os cânt eu hystyried gyda’i gilydd, yn cyflawni newid mawr o ran gwella’r maes hwn yn y dyfodol, ac mae’n siŵr y bydd y pwyllgor yn awyddus i barhau i edrych arno mewn perthynas â chanlyniadau yn y dyfodol i weld a yw ein hargymhellion wedi cael eu rhoi ar waith yn llawn. Rwy’n cydnabod bod un ohonynt wedi cael ei wrthwynebu, fel petai, ond gwn fod calon y Gweinidog yn y lle cywir o ran ei hawydd i sicrhau newid go iawn. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe baech yn siarad yn benodol am y mater ôl-16 a rôl Estyn mewn ymateb i adroddiad y pwyllgor heddiw. Diolch.