Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 3 Mai 2017.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, am fy ngalw i siarad yn y ddadl hon ar effaith cyfuno grantiau arbenigol blaenorol i greu’r grant gwella addysg ar blant Sipsiwn, Roma a Theithwyr a phlant o leiafrifoedd ethnig. Rwy’n aelod o’r pwyllgor, felly rwyf wedi gallu cymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn. Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau ar addysg Sipsiwn, Roma a Theithwyr, gan fy mod yn gadeirydd ar y grŵp trawsbleidiol yma yn y Cynulliad.
Gyda llaw, rydym newydd gael grŵp trawsbleidiol yma amser cinio heddiw, lle y cawsom blant o gymunedau Sipsiwn a Theithwyr o bob rhan o Gymru, gan gynnwys Sir Benfro a Thorfaen, yn holi Ysgrifennydd y Cabinet dros blant a chydlyniant cymdeithasol, Carl Sargeant, ynglŷn ag argaeledd safleoedd, ynglŷn â’r rheswm pam fod Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu gorfodi i symud ymlaen a llawer o gwestiynau heriol iawn. Rwy’n credu y byddai unrhyw un ohonoch a fyddai wedi clywed y bobl ifanc yn gofyn y cwestiynau hyn yn gwybod am y potensial enfawr sydd gan y plant hynny. Mae’n amlwg yn ddyletswydd arnom i sicrhau eu bod yn cyrraedd eu potensial.
Pan gafodd y grantiau eu cyfuno i fod yn grantiau gwella addysg, fe lobïodd aelodau’r grŵp hwnnw’n gryf yn erbyn y newid, fel y gwnes i, a fy marn i, ar ôl cymryd rhan yn yr ymchwiliad, yw mai dyna’r ffordd anghywir o’i chwmpas hi. Rwy’n falch fod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad y dylid ei adolygu, er ei fod wedi gwrthod, wrth gwrs, fel y dywedodd y ddau siaradwr blaenorol, y ffordd y digwyddodd hyn—drwy edrych ar y ffordd y cynhaliwyd yr asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb—mae hynny wedi cael ei wrthod. Oherwydd cawsom dystiolaeth gref a ddangosai nad oeddent yn teimlo bod asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb wedi cael eu cynnal yn briodol ac rydym yn dysgu llawer drwy edrych yn ôl a gweld sut y mae pethau’n digwydd. Felly, rwy’n gwybod fod hynny wedi cael ei wrthod, ond roeddwn yn meddwl tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet ystyried hynny—bod camgymeriad wedi cael ei wneud yma o bosibl.
Cefais fy synnu mewn gwirionedd gan beth o’r dystiolaeth a gyflwynwyd a chefais fy synnu’n bennaf gan y diffyg gwybodaeth ynglŷn â’r hyn oedd yn digwydd yn y maes hwn mewn gwirionedd. Roedd unigolion a oedd yn gweithio ar lawr gwlad yn angerddol ac yn wybodus ynglŷn â’u gwaith; pobl â phrofiad uniongyrchol o weithio gyda’r grwpiau o blant roeddem yn edrych arnynt—roeddent yn teimlo’n gryf iawn nad oedd pethau’n mynd i’r cyfeiriad cywir. Ond roeddwn yn teimlo bod y cyrff ehangach yn meddu ar lawer llai o wybodaeth ac yn llawer llai ymroddedig i wybod beth oedd yn digwydd mewn gwirionedd. Gwn fod y cyrff ehangach—rwy’n credu bod y consortia, y cyfeiriodd cadeirydd y pwyllgor atynt—gwn mai rhan fechan iawn o’u gwaith yw hyn, ond os ydym am fod yn gymdeithas deg, ac os yw’r Cynulliad hwn am gyflawni ar gyfer pawb, mae’n rhaid i ni edrych ar y rhan hon. Mae’n rhaid i mi ddweud, fel y dywedaf, fy mod wedi cael fy synnu bod eu gwybodaeth mor wael.
Roedd yn ymddangos hefyd nad oedd unrhyw systemau monitro ar waith i weld beth oedd effaith y newid wedi bod, a gwn fod y Llywodraeth wedi dweud y bydd yn cytuno i adolygu’r trefniadau monitro, ond rwy’n credu bod gwir angen sicrwydd arnom y bydd hwn yn adolygiad ystyrlon. Beth y mae’n ei olygu: ‘Byddwn, byddwn yn edrych arno eto—edrych a gweld sut y mae’r trefniadau monitro’n gweithio’? Mae’n rhaid cael ymrwymiad penodol i sicrhau bod hynny’n digwydd mewn gwirionedd, felly sut y byddant yn adolygu a faint o flaenoriaeth fydd i hynny?
Y pwynt olaf rwyf am ei wneud mewn gwirionedd yw bod argymhelliad 14 yn cynnig y dylai’r prosiect Teithio Ymlaen, ‘Arfer Da mewn Addysg: Prosiect Ymchwil Cymheiriaid’—y dylai’r Llywodraeth fwrw ymlaen â’i argymhelliad. Mae’r Llywodraeth yn cytuno mewn egwyddor ac yn dweud y bydd yn ei gyhoeddi ar wefannau penodol. Rwy’n teimlo o ddifrif fod yna dystiolaeth y mae angen i bobl wybod amdani yn yr adolygiad hwn gan gymheiriaid. Rwyf wedi bod yn edrych ar rai o’r argymhellion yn yr adolygiad gan gymheiriaid ac mae rhai o’r rhain yn bwysig iawn. Dywedodd y plant, ‘Mae angen athro/athrawes sy’n Sipsi arnom’. Felly, rydym angen modelau rôl ac rydym yn gwybod fod Sipsiwn yn cyflawni’n uchel iawn mewn llawer o rolau, ac yn aml, nid yw’r cyhoedd yn gwybod am hynny. Ac yna, ‘Ni fyddaf yn mynd i’r gwersyll y flwyddyn nesaf am fod Mam a Dad yn dweud bod yr ysgol yn rhy bell ac nid ydynt eisiau i mi fynd ar y bws ar fy mhen fy hun; mae Mam yn credu y byddaf yn gweld ac yn dysgu pethau drwg.’ Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig deall cefndir cymunedol y plant sy’n deillio o ofal dros y plant.
Ac ar y tri phwynt olaf, roeddent yn dweud bod ganddynt dri awgrym i ysgolion ynglŷn â sut i weithio gyda disgyblion sy’n Sipsiwn a Theithwyr. Rhif un yw: ‘byddwch yn ymwybodol o’n diwylliant’, a chredaf fod gan hynny ffordd bell i fynd, ond mae’n bwysig iawn. ‘Byddwch yn ymwybodol o’r gwahaniaethau rhyngom a’r gymuned sefydlog’, ac fel y dywedodd ein Cadeirydd, ni cheir un ateb sy’n addas i bawb. Mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol o’r gwahaniaethau sydd yno. Ac yn drydydd: ‘addysg hyblyg ac opsiynau i fynychu’n rhan-amser ar gyfer pob disgybl ledled Cymru’, sydd, unwaith eto, yn rhywbeth rwy’n credu y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ymateb iddo o bosibl.