Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 3 Mai 2017.
A gaf fi ddweud ar y dechrau fy mod yn croesawu’r ddadl hon ar adeg amserol iawn yn y cylch etholiadol, o ystyried bod gennym etholiadau llywodraeth leol yfory? Roeddwn eisiau cydnabod y rôl allweddol y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae mewn gwirionedd yn erbyn cefndir, fel y mae eraill eisoes wedi cydnabod, o doriadau anferth gan Lywodraeth San Steffan, a rhagrith syfrdanol Torïaid sy’n codi yma i resynu at doriadau i awdurdodau lleol. Mae’n eithaf syfrdanol, fel y dywedais. Fel y nododd Hefin David, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwarchod cynghorau yng Nghymru i raddau llawer helaethach nag y diogelwyd unrhyw awdurdod lleol gan y Torïaid yng Nghymru.
Cyn i mi symud ymlaen at brif ran fy nghyfraniad, Llywydd, roeddwn eisiau rhoi sylw i’r drafodaeth gynharach ar thema democratiaeth mewn llywodraeth leol. Wrth ystyried yr hyn sy’n digwydd ym Merthyr Tudful, nid oes gennym unrhyw ymgeisydd UKIP yn ymgeisio, sy’n swnio’n rhyfedd iawn i mi i blaid sy’n honni ei bod yn cymryd yr awenau oddi wrth y Blaid Lafur yn y Cymoedd. Mae gennym un Tori unig yn sefyll, ac mae gennym ddau Ddemocrat Rhyddfrydol, ac mae’r gweddill yn gymysgedd o ymgeiswyr annibynnol sy’n sefyll dros ddyn a ŵyr beth, gyda gwleidyddiaeth o’r adain chwith eithafol i’r dde eithafol. Pwy a ŵyr beth y mae pobl yn mynd i gael os ydynt yn ethol ymgeiswyr annibynnol yfory.
Ond o’m rhan i, hoffwn achub ar y cyfle hwn i gyfeirio at ddau faes penodol a amlygwyd yng nghynnig Plaid Cymru mewn perthynas â chyngor Merthyr Tudful, sef addysg a datblygu economïau lleol. Rhwng 2008 a 2012, câi cyngor Merthyr ei reoli heb unrhyw gynllun cydlynol gan yr aelodau annibynnol, ac o un flwyddyn i’r llall, yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd canlyniadau ysgolion yn gosod y cyngor naill ai ar safle 21 neu 22 o blith y 22 awdurdod lleol yng Nghymru a gwnaed gwasanaeth addysg yr awdurdod yn destun mesurau arbennig. Yn 2012, cymerodd Llafur reolaeth ar y cyngor hwnnw ac ers 2013 gwellodd perfformiad ysgolion ym Merthyr Tudful ar raddfa lawer cyflymach na gweddill Cymru. Mae canlyniadau’r cyngor wedi gwella flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac mae’r cyngor bellach yn safle 10 o’r 22 awdurdod ac mae’n codi, ac mae’r awdurdod addysg wedi dod allan o fesurau arbennig. Enghraifft glir o Lafur yn cyflawni pan fo mewn grym.
Nid ym maes addysg yn unig y gwelwyd gwelliant. Mae Cyngor Merthyr Tudful dan arweiniad Llafur hefyd yn arwain y ffordd ar ddod â swyddi newydd i’r fwrdeistref sirol ac mae’n gwneud yn well na’r awdurdodau eraill yn y Cymoedd ar gynorthwyo busnesau i greu swyddi newydd ar gyfer pobl leol. Daeth pum cant o swyddi i Ferthyr yn dilyn llwyddiant y cyngor i ddenu General Dynamics i’r dref, a thrwy gefnogaeth grant gan Lywodraeth Cymru o bron i £13 miliwn o dan ei rhaglen Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid, mae Merthyr Tudful ar y trywydd cywir i gyrraedd y targed o ran adfywio a hyrwyddo cynaliadwyedd canol y dref a darparu tai a phrosiectau strategol mawr eraill yn yr ardal. O ganlyniad, rydym wedi gweld Merthyr Tudful yn dod yn brifddinas twf busnes yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Ar seilwaith, cwblhawyd datblygiad gwerth £8.5 miliwn Riverside yn Ynysowen ac fe’i hagorwyd yn ystod 2016. Roedd y cynllun, a gynhwysai briffordd newydd, pontydd a llwybrau troed, hefyd yn rhyddhau tir ar gyfer datblygiadau tai yn y dyfodol ar safle’r hen lofa. O ran twristiaeth, agorodd Parc Beicio Cymru ei ddrysau ym mis Awst 2013, ac ers hynny mae wedi denu dros 1 filiwn o ymwelwyr i’r safle yng nghoedwig Gethin yn Abercannaid. Gall chyngor Merthyr fod yn haeddiannol falch o’i gyflawniadau.
Ond gan ei bod yn adeg etholiad, mae’n debyg nad oes fawr o syndod fod cynnig Plaid Cymru’n ceisio beirniadu cynghorau Llafur ynghylch cyflogau prif weithredwyr. Llywydd, nid wyf am amddiffyn cyflogau gormodol yn ein gwasanaethau cyhoeddus, ond byddwn yn cwestiynu’r gymhariaeth y mae Plaid Cymru’n ceisio’i gwneud rhwng cynghorau a arweinir gan Blaid Cymru a chynghorau a arweinir gan y Blaid Lafur mewn perthynas â chyflogau prif weithredwyr. Un cyngor sydd dan reolaeth Plaid Cymru, sef Gwynedd, ond hyd yn oed os ydych yn cynnwys Ceredigion a Sir Gaerfyrddin lle y maent mewn clymblaid, fel y mae Mike Hedges eisoes wedi’i nodi, rydych yn sôn am gynghorau bach o’u cymharu â’r rhan fwyaf o’r cynghorau dan arweiniad Llafur, sy’n cynnwys Caerdydd, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerffili. Byddai maint cymharol yr awdurdodau lleol hyn mewn perthynas â’r boblogaeth a wasanaethir ynddo’i hun yn rhesymau dros gyflogau ar lefelau uwch.
Ddoe, daeth un o’r cynghorau hynny sydd dan reolaeth Lafur, sef Caerffili, sydd hefyd yn cynnwys rhan o fy etholaeth i yng nghwm Rhymni, i gytundeb â’i undebau llafur staff er mwyn gwella tâl gwyliau rhai o’i weithwyr sydd ar y cyflogau isaf. Mae hyn yn ychwanegol at dalu’r cyflog byw sylfaenol i’w holl staff, fel llawer o awdurdodau a reolir gan Lafur yng Nghymru, gan gynnwys Caerdydd, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, a Merthyr Tudful rwy’n falch o ddweud. Felly, os yw Plaid Cymru am gecru ynglŷn â chyflogau mewn llywodraeth leol yn y ddadl hon, yn hytrach na gwneud cymariaethau diffygiol rhwng awdurdodau lleol heb ystyried eu maint, efallai y gallant roi ychydig o amser i esbonio pam nad ydynt yn talu’r cyflog byw sylfaenol yn yr awdurdodau y maent yn eu rheoli.
I gloi, Llywydd, byddaf yn cefnogi’r cynnig fel y’i diwygiwyd gan Lywodraeth Cymru a’r gwelliant olaf gan y Ceidwadwyr, ac wrth wneud hynny, hoffwn bwysleisio a chanmol y gwaith a wnaed gan awdurdodau lleol ledled Cymru, yn erbyn cefndir o galedi parhaus dan law’r Torïaid.