Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 3 Mai 2017.
Rwy’n falch iawn o siarad yn y ddadl hon, ac yn croesawu’r ddadl hefyd, rhaid i mi ddweud, ac rwy’n mynd i geisio ymateb i rannau penodol o’r cynnig ger ein bron, ond cyn i mi ddechrau, rwy’n meddwl fy mod wedi clywed—. Ac rwy’n deall bod hon yn ddadl ar gynnig UKIP, ac rwy’n tybio, fel cynnig UKIP, ei fod yn cynrychioli polisi UKIP. Os wyf yn aneglur, rwy’n hapus i dderbyn ymyriad, ond rwy’n tybio bellach mai polisi UKIP Cymru yw cefnogi datgarboneiddio. Ac rwy’n gweld Neil yn ysgwyd ei ben yn egnïol. Os yw hynny’n wir, yna am beth ar y ddaear y mae’r cynnig hwn yn sôn? Oherwydd mae’n dweud ei fod
‘Yn nodi bod nod o gyflawni economi di-garbon yng Nghymru.’
A, ‘nodi’. Nid ‘croesawu’, nid ‘cefnogi’, nid ‘annog’; mae’n ‘nodi’. Yn groes i ysbryd yr hyn a glywsom yn sylwadau agoriadol David—y byddwn yn eu croesawu os mai dyna oedd polisi UKIP i’w weld yn ei awgrymu—mae’n ‘nodi’. Mae’n amlwg ei fod wedi’i lunio’n ofalus iawn yno. Nid yw’n croesawu, ond mewn gwirionedd, polisi’r blaid o hyd yw ei bod yn gwrthwynebu datgarboneiddio. Ac rwy’n edrych i weld a yw arweinydd y blaid yn nodio. Iawn, ac mae’n galw am ddiddymu Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 a gyflwynwyd gan Lafur. Iawn, felly rwy’n meddwl fy mod yn glir ynglŷn â hynny yn awr.
Mae’n dweud yn fan hyn,
‘mai cymunedau ddylai gael y gair olaf o ran cymeradwyo ffermydd solar’
Yn bendant, fe ddylent gael mynegi barn, heb os nac oni bai, a dylent gael mynegi’r farn honno yn rhan o’r broses gynllunio gwlad a thref. Dylent gael mynegi’r farn honno yng nghyd-destun Deddf yr amgylchedd, a Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn ogystal. Dylent gael mynegi barn, ac mewn gwirionedd, hoffwn eu gweld yn cael mwy o lais, nid yn lleiaf mewn perchnogaeth gymunedol hefyd ar brosiectau ynni adnewyddadwy, boed yn ynni gwynt neu ynni solar, ac rwy’n credu bod mwy i’w wneud ar hynny.
Mae’n sôn yn y cynnig na ddylid torri coed aeddfed er mwyn adeiladu ffermydd solar. Rwy’n cytuno. Yn ddelfrydol, dylid osgoi hynny, ac yn benodol, nid yn unig coed aeddfed, ond dylid osgoi coetiroedd hynafol—coetiroedd hen iawn—a dylai fod canlyniadau i gwympo coed yn anghyfreithlon wrth gwrs. Ond rhaid i hyn fod yng nghyd-destun y broses o wneud penderfyniadau’n lleol hefyd, a rhaid i’r cymunedau lleol hynny gael mynegi barn o fewn y broses honno. Ond rwy’n sylwi nad yw’n ymwneud yn unig â—. Er bod rhif 1 yn dweud ei fod
‘Yn cyfarwyddo Llywodraeth Cymru i adolygu ei pholisïau cynhyrchu ynni’, mae’n ymwneud â mwy na chynhyrchu ynni. Yn wir, mae’n sôn am foeleri sy’n rhad ar danwydd, gosod ffenestri gwydr triphlyg, a’r cyfan y byddwn yn ei ddweud yw: mae’r rhain yn bethau teilwng i edrych arnynt, ond mae’n bell o fod yn unrhyw beth tebyg i restr siopa gywir ar gyfer yr hyn y dylid ei wneud o ran mesurau ôl-osod sy’n arbed ynni. A’r hyn rydym ei angen yw osgoi’r math hwnnw o ddewis rhai, a oedd yn un o wendidau mawr y Fargen Werdd mewn gwirionedd, rhaglen fawr flaenllaw’r Fargen Werdd yn y DU, lle roedd gennym werthwyr, i bob pwrpas, yn mynd i mewn i dai ac yn dweud, ‘Fe wnaf y peth hwn i chi; fe wnaf y peth arall i chi’, nid yr hyn sy’n iawn ar gyfer yr eiddo a gweithio drwyddo mewn gwirionedd o ran yr hyn a fyddai’n rhoi’r budd mwyaf am yr allbwn lleiaf. Felly, mae yna rai syniadau da, ond nid yw’n ddigon helaeth.
Nawr, yn y gwelliant a gyflwynwyd, gwelliant Rhif 1, gan fy nghyfaill, yr Aelod Cynulliad dros Fro Morgannwg, mae’n nodi strategaeth polisi ynni Llywodraeth Cymru, Ynni Cymru, y byddai David, rwy’n tybio, yn hoffi’i gweld yn cael ei hadolygu. Rwy’n credu y caiff ei hadolygu, gan ei bod wedi bod yno ers ychydig o flynyddoedd bellach. Bydd yn cael ei hadolygu, a bydd yn cael ei hadolygu, rwy’n tybio, yn unol â pholisi ynni craffach i Gymru a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig rhagflaenol. Ac felly y dylai fod, oherwydd o fewn hynny, soniai am leoleiddio cynhyrchu ynni. Soniai am fwy o ymwneud a pherchnogaeth y gymuned ar gynhyrchiant ynni. Felly, ar ryw adeg, bydd y strategaeth yn cael ei hadolygu, ond ni chaiff ei hadolygu er mwyn cefnu ar dargedau datgarboneiddio neu er mwyn cefnu ar ynni adnewyddadwy. A rhai o’r ffynonellau ynni adnewyddadwy y mae UKIP yn eu gwrthwynebu, wrth gwrs, yw’r ffynonellau ynni adnewyddadwy mwyaf costeffeithiol hefyd. Ac mae’n nodi’r targed sydd gennym ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru—gostyngiad o 80 y cant fan lleiaf erbyn 2050—ac rydym yn gwybod bod yn rhaid i ni wneud mwy. Canlyniad cytundeb Paris yw mai dyna ble’r ydym yn awr; mewn gwirionedd, mae’n rhaid i ni fynd ymhellach ac mae’n rhaid i ni ei godi bob blwyddyn wrth inni symud ymlaen.
Felly, yn groes i’r hyn y deallaf yw safbwynt UKIP, mae angen i ni wneud mwy, symud yn gyflymach, a gwneud hynny ar frys. Fel y mae’r pwyllgor newid hinsawdd wedi dweud, mae yna frys enbyd bellach i fynd ymhellach. Mae hynny’n golygu bod angen inni roi hwb go iawn i effeithlonrwydd ynni—drwy ôl-osod—ac rwyf wedi dadlau o’r blaen y dylai fod yn rhan o seilwaith cenedlaethol, ac rwy’n credu bod y Llywodraeth yn gwrando ar hynny yma yng Nghymru. Mae angen i ni godi safonau effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi newydd a chymaint mwy hefyd. Mae llawer mwy y gallwn ei wneud. Felly, croesawaf y ddadl hon heddiw, ond cynnig rhannol yn unig ydyw fel y mae wedi’i strwythuro. Byddaf yn cefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru ac yn eu hannog ar yr un pryd i fod hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol. Ni yw’r blaid a gyflwynodd Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008. Gallwn wneud rhagor eto yma yng Nghymru.