Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 9 Mai 2017.
Wel, a gaf i ymuno â'r Aelod i fynegi fy nghofion, wrth gwrs, at deulu’r Cynghorydd Keith Reynolds? Gwn fod y salwch yn fyr ac, mewn sawl ffordd, yn annisgwyl. Ac, wrth gwrs, rwy’n siŵr y byddai pobl yng Nghaerffili wedi cydnabod y gwaith a wnaed ganddo ef a chymaint o bobl eraill yn ystod y pum mlynedd diwethaf.