<p>Dyledion sy’n Ddyledus Awdurdodau Lleol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 9 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:36, 9 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno mai’r trydydd parti sydd â’r ddyled fwyaf i awdurdodau lleol Cymru yw Llywodraeth San Steffan, sydd wedi torri dros draean mewn gwariant ar ofal oedolion ers 2011, sydd wedi cael canlyniadau ariannol difrifol yng Nghymru ac, yn amlwg, canlyniadau ofnadwy o ran y gost ddynol i'r henoed, y rhai sy’n sâl a'r anabl? Os caiff y Llywodraeth Geidwadol ddideimlad hon ei hail-ethol, fel sy’n ymddangos yn fwyfwy tebygol, ar 8 Mehefin, mae angen cynllun arnom i amddiffyn Cymru. Ble mae hwnnw? Beth yw hwnnw? Pwy sy'n mynd i’w arwain? Oherwydd mae’n rhaid i mi ddweud, ar sail y dystiolaeth a welwyd o ddoe, rydym ni mewn sefyllfa enbyd os mai fe sy’n mynd i wneud hynny.