<p>Negodiadau â’r UE</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 9 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:50, 9 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

O ran y cwestiwn, mae wedi ei setlo, gan fod Prydain yn gadael yr UE ac mae'r cwestiwn hwnnw wedi cael ei ateb eisoes. Yr hyn nad wyf i’n ei weld, fodd bynnag, yw unrhyw awgrym o unrhyw fath o gynllun gan Lywodraeth y DU. Dim byd. Rwyf wedi eistedd yno mewn cyfarfodydd ac rwyf wedi gofyn. Rwyf wedi ceisio gweld beth yw'r cynllun. Nid oes un. Ddydd Iau diwethaf, gwelsom banig ar ran Prif Weinidog y DU pan ddechreuodd bryderu am yr hyn y byddai Brexit yn ei olygu i bobl gyffredin sy'n gweithio, ac mae hi'n iawn i fod yn bryderus am hynny. Ond ni allwch ddweud ar y naill law bod dim cytundeb yn well na chytundeb gwael, ac yna dweud, 'O, ond, wrth gwrs, mae angen cytundeb arnom ni i wneud yn siŵr nad ydym ni’n gweld dirywiad economaidd.' Nawr, yr hyn sy’n hynod o bwysig yw bod dangos eu hunain yr wythnos diwethaf yn mynd a bod gennym ni syniadau ynghylch sut y gallai Brexit edrych. Roedd hi o blaid aros. Gadewch i ni beidio ag anghofio hynny. Mae hi’n rhywun, fel finnau, sydd wedi derbyn y canlyniad ac mae'n hynod bwysig, i’r rhai sydd â syniadau, weithio gyda'i gilydd i fwrw ymlaen â’r syniadau hynny, oherwydd nid ydym ni wedi cael dim byd o gwbl o ran syniadau gan y rhai a fu'n ymgyrchu dros Brexit.