1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 9 Mai 2017.
3. Beth yw asesiad y Prif Weinidog o gyflwr presennol negodiadau â'r UE? OAQ(5)0589(FM)
‘Statig' yw’r gair y byddwn i’n ei ddefnyddio, rwy’n credu. Bu llawer iawn o ddangos eu hunain ar y ddwy ochr. Rwy'n gobeithio y daw hynny i ben yn eithaf buan fel y gellir bwrw ymlaen â’r dasg o sicrhau Brexit call.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Er bod Trysorlys y DU wedi gwarantu cyllid llawn ar gyfer pob prosiect strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd sydd wedi cychwyn cyn i'r DU adael yr UE, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno ei bod yn gwbl hanfodol, ar ôl i’r DU adael yr UE, bod cyfanswm yr arian a fu ar gael yn y gorffennol ar gyfer y prosiectau hyn yng Nghymru yn cael ei ychwanegu at gyllideb Cymru, a'i fod o dan reolaeth cyllideb Cymru?
Ydw. Yn gyntaf oll, rydym ni’n gwybod bod cronfeydd strwythurol wedi eu gwarantu hyd at 2020. Mae cymorthdaliadau ffermio wedi eu gwarantu tan 2020, ond dim byd y tu hwnt i hynny. Ar hyn o bryd, mae ffermwyr yn wynebu'r sefyllfa lle na fydd ganddynt unrhyw beth o gwbl o ran cymorth y tu hwnt i'r adeg honno. Mae gen i ateb hawdd, sef, yn syml, i’r gronfa o arian fod ar gael, fel y mae nawr, ac iddi gael ei dosbarthu fel ag y mae nawr i roi’r sicrwydd y mae’r cronfeydd strwythurol wedi ei roi hyd yn hyn, a sicrwydd i'n ffermwyr yn arbennig. Dyna ffordd dda o sicrhau na fydd yn rhaid i ffermwyr ddioddef o ganlyniad i Brexit.
Er bod Jeremy Corbyn wedi ymuno â'r Ceidwadwyr gan ddweud ei fod eisiau i Brexit gyflwyno cymdeithas decach ac economi wedi’i huwchraddio, rydym ni’n cydnabod bod trafodaethau anodd o'n blaenau. Sut, felly, ydych chi’n ymateb i’w ddatganiad bod y mater o Brexit wedi ei setlo?
O ran y cwestiwn, mae wedi ei setlo, gan fod Prydain yn gadael yr UE ac mae'r cwestiwn hwnnw wedi cael ei ateb eisoes. Yr hyn nad wyf i’n ei weld, fodd bynnag, yw unrhyw awgrym o unrhyw fath o gynllun gan Lywodraeth y DU. Dim byd. Rwyf wedi eistedd yno mewn cyfarfodydd ac rwyf wedi gofyn. Rwyf wedi ceisio gweld beth yw'r cynllun. Nid oes un. Ddydd Iau diwethaf, gwelsom banig ar ran Prif Weinidog y DU pan ddechreuodd bryderu am yr hyn y byddai Brexit yn ei olygu i bobl gyffredin sy'n gweithio, ac mae hi'n iawn i fod yn bryderus am hynny. Ond ni allwch ddweud ar y naill law bod dim cytundeb yn well na chytundeb gwael, ac yna dweud, 'O, ond, wrth gwrs, mae angen cytundeb arnom ni i wneud yn siŵr nad ydym ni’n gweld dirywiad economaidd.' Nawr, yr hyn sy’n hynod o bwysig yw bod dangos eu hunain yr wythnos diwethaf yn mynd a bod gennym ni syniadau ynghylch sut y gallai Brexit edrych. Roedd hi o blaid aros. Gadewch i ni beidio ag anghofio hynny. Mae hi’n rhywun, fel finnau, sydd wedi derbyn y canlyniad ac mae'n hynod bwysig, i’r rhai sydd â syniadau, weithio gyda'i gilydd i fwrw ymlaen â’r syniadau hynny, oherwydd nid ydym ni wedi cael dim byd o gwbl o ran syniadau gan y rhai a fu'n ymgyrchu dros Brexit.
A wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi nad yw’r math o iaith sy’n cael ei defnyddio gan Brif Weinidog y DU i ymosod ar ein ffrindiau a'n cymdogion ar y cyfandir yn helpu neb o ran y trafodaethau sydd i ddod? Nid yn unig y mae’n pardduo Llywodraeth Theresa May, ond mae hefyd yn bygwth pardduo enw da Cymru. Mae’r Prif Weinidog yn gofyn am syniadau wrth symud ymlaen, i liniaru’r potensial o bardduo enw da Cymru ledled y byd oherwydd yr iaith honno sy’n cael ei defnyddio gan Theresa May. A wnaiff ef ymrwymo i gyflwyno polisi rhyngwladol newydd i Gymru a fyddai'n cynnwys neilltuo aelod o'i Gabinet fel Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion allanol ar gyfer ein gwlad, er mwyn dechrau ailadeiladu’r pontydd y mae San Steffan mor benderfynol o’u llosgi’n llwch?
Roedd iaith yr wythnos diwethaf yn anniplomataidd. Rwy'n credu bod y ddwy ochr, mewn gwirionedd, yn euog o ddangos eu hunain ac mae angen i hynny ddod i ben. Nid rhyfel yw hwn. Nid oes neb wedi ymosod ar wlad unrhyw un arall. Nid ydym ar fin wynebu ein gilydd, i syllu ar ein gilydd dros y sianel neu, yn wir, ar draws ffin Iwerddon. Rydym ni eisiau bod yn ffrindiau ac yn gynghreiriaid ac yn bartneriaid masnachu yn y pen draw. Rydym ni eisoes wedi dechrau edrych ar ein polisi rhyngwladol, yn enwedig lle mae angen i ni gryfhau ein presenoldeb rhyngwladol. Rydym ni’n gwybod ein bod ni wedi bod yn llwyddiannus. Mae'r llwybr Qatar Airways yn enghraifft arall o sut y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi'r maes awyr i gael y llwybr hwnnw, ond y cam nesaf ymlaen yw i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n ceisio cael digon o bresenoldeb a mwy o bresenoldeb yn y marchnadoedd hynny a fydd yn dod yn bwysig i ni.