<p>Negodiadau â’r UE</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 9 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 1:51, 9 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

A wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi nad yw’r math o iaith sy’n cael ei defnyddio gan Brif Weinidog y DU i ymosod ar ein ffrindiau a'n cymdogion ar y cyfandir yn helpu neb o ran y trafodaethau sydd i ddod? Nid yn unig y mae’n pardduo Llywodraeth Theresa May, ond mae hefyd yn bygwth pardduo enw da Cymru. Mae’r Prif Weinidog yn gofyn am syniadau wrth symud ymlaen, i liniaru’r potensial o bardduo enw da Cymru ledled y byd oherwydd yr iaith honno sy’n cael ei defnyddio gan Theresa May. A wnaiff ef ymrwymo i gyflwyno polisi rhyngwladol newydd i Gymru a fyddai'n cynnwys neilltuo aelod o'i Gabinet fel Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion allanol ar gyfer ein gwlad, er mwyn dechrau ailadeiladu’r pontydd y mae San Steffan mor benderfynol o’u llosgi’n llwch?