Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 9 Mai 2017.
Diolch. Bythefnos yn ôl roeddwn yn falch o siarad ochr yn ochr â'r Ysgrifennydd Iechyd yn nathliadau blwyddyn gyntaf Valley Steps, prosiect cymunedol sy'n ceisio gwella llesiant emosiynol trwy gyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar a rheoli straen. Nawr, mae Valley Steps wedi helpu bron i 2,000 o bobl yn ystod eu blwyddyn gyntaf, ac mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn ymddangos yn amser priodol i ddathlu ei lwyddiant. Gydag un o bob pedwar o bobl yn dioddef problemau iechyd meddwl, pa arfer gorau all Llywodraeth Cymru ei fabwysiadu o Valley Steps a’i hyrwyddo ymhlith byrddau iechyd eraill ledled Cymru?