1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 9 Mai 2017.
5. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella iechyd meddwl pobl yng Nghymru? OAQ(5)0579(FM)
Mae 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', ein strategaeth iechyd meddwl traws-Lywodraeth, a'r cynllun cyflawni cysylltiedig ar gyfer 2016-19 yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer gwella iechyd meddwl a llesiant pobl yng Nghymru.
Diolch. Bythefnos yn ôl roeddwn yn falch o siarad ochr yn ochr â'r Ysgrifennydd Iechyd yn nathliadau blwyddyn gyntaf Valley Steps, prosiect cymunedol sy'n ceisio gwella llesiant emosiynol trwy gyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar a rheoli straen. Nawr, mae Valley Steps wedi helpu bron i 2,000 o bobl yn ystod eu blwyddyn gyntaf, ac mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn ymddangos yn amser priodol i ddathlu ei lwyddiant. Gydag un o bob pedwar o bobl yn dioddef problemau iechyd meddwl, pa arfer gorau all Llywodraeth Cymru ei fabwysiadu o Valley Steps a’i hyrwyddo ymhlith byrddau iechyd eraill ledled Cymru?
Wel, mae Valley Steps yn ddull arloesol: ei nod yw gwella iechyd meddwl a lleihau rhagnodi cyffuriau gwrth-iselder. Rwyf yn ei longyfarch ar gyrraedd ei ben-blwydd cyntaf, ac rydym ni’n awyddus i ledaenu'r neges o fodelau arloesol fel hyn er mwyn annog cydweithio tebyg i gynorthwyo pobl â phroblemau iechyd meddwl, a bydd y gwaith hwnnw, wedyn, yn hysbysu mentrau newydd, gan gynnwys datblygu’r bond llesiant a'r cynlluniau rhagnodi cymdeithasol arbrofol. Felly, byddwn yn ystyried gwaith sefydliadau fel Valley Steps er mwyn sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei wneud yn cael ei gryfhau o ganlyniad i edrych ar ei brofiad.
Prif Weinidog, bu nifer o farwolaethau o ganlyniad i hunanladdiad yn y gorffennol diweddar mewn ysgolion yn fy etholaeth i. Nawr, yn gynharach eleni, gwnaeth Prif Weinidog y Deyrnas Unedig gyhoeddiad y dylai pob ysgol uwchradd yn Lloegr gael cynnig hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl, sy'n dysgu pobl sut i adnabod pobl ifanc a allai fod yn datblygu problem iechyd meddwl, ac mae’r polisi hwn wedi cael croeso da iawn gan elusennau a gweithwyr proffesiynol yn arbennig, ac mae'n rhaid i ni gofio bod llawer o bobl ifanc yn cael trafferth gyda materion fel anorecsia a hunan-niweidio yn ogystal â meddwl am hunanladdiad. Ac roeddwn i’n meddwl tybed, Prif Weinidog, a allech chi ystyried menter debyg yn ein hysgolion ni i geisio atal y marwolaethau gwastraffus hyn.
Wel, sylwais ar gyhoeddiad Prif Weinidog y DU yn ddiweddar pryd y siaradodd am gael rhywun ym mhob ysgol yng Nghymru a Lloegr. Gwn mai camgymeriad ar ei rhan hi oedd hynny, ac mae'r syniad sy’n sail i'r hyn a awgrymwyd ganddi yn un gwerth ei ystyried. Ond, wrth gwrs, yr hyn yr wyf yn atgoffa'r Aelod ohono yw bod gennym ni eisoes gwnselydd ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru sy’n gallu cynnig y gwasanaeth hwnnw. Rwy'n credu nad darparu cwnselydd yn unig yw’r gamp, ond sicrhau bod pobl ifanc yn teimlo y gallant fynd i weld y cwnselydd hwnnw. Ac mae hynny’n rhywbeth sy’n anoddach ei wneud. Mynd i weld rhywun mewn gwirionedd a phobl yn darganfod efallai, er ei fod yn gyfrinachol—mae pobl ifanc yn ei gweld hi felly. Gall hwnnw fod yn gam mawr iddyn nhw hefyd.
Mae gennym ni’r cwnselwyr mewn ysgolion eisoes, ond nid yw hynny'n ddigon ynddo'i hun. Mae angen i ni hefyd wneud yn siŵr, wrth gwrs, bod pobl ifanc yn gallu cael gafael ar gymorth y tu allan i'r ysgol hefyd, yn enwedig mewn amgylchedd lle maen nhw’n teimlo'n gyfforddus.
A ydy’r Prif Weinidog wir yn sylweddoli faint o argyfwng sydd yn ein hwynebu ni o ran gofal iechyd meddwl yng Nghymru? Yn Ynys Môn rydw i’n deall nad oes yna rŵan yr un ymgynghorodd seiciatryddol ar gyfer cleifion iechyd meddwl rhwng 18 a 65 oed. Mae gweithwyr iechyd meddwl yn gweithio dan bwysau na allan nhw ymdopi â fo ac maen nhw’n ofni eu bod nhw’n gwneud penderfyniadau sydd yn golygu risg i gleifion. Mae diffyg gwlâu yn golygu bod pobl yn cael eu gyrru mor bell â Llundain i dderbyn gofal. Mae dwsinau o blant a phobl ifanc yn cael eu hanfon i Loegr i gael triniaeth. Mae dros 200 o gleifion iechyd meddwl y gogledd wedi cael eu trosglwyddo allan o Gymru yn y 22 mis diwethaf. Mae’r gyfundrefn gyfan ar ei gliniau. Pa bryd mae’r Llywodraeth am weithredu er mwyn gwarchod rhai o fy etholwyr mwyaf bregus i?
Nid ydw i’n derbyn y ffigurau y mae’r Aelod wedi’u dweud yn y Siambr. Mae’n rhaid i fi ddweud yn gyntaf fod y cyllid i iechyd meddwl wedi mynd lan i £629 miliwn yn y flwyddyn ariannol i ddod. Mae hynny, wrth gwrs, wedi cael ei warchod hefyd. Mae’r byrddau iechyd wedi cyrraedd eu targedi nhw—maen nhw wedi heibio eu targedi nhw ynglŷn â gwasanaethu iechyd meddwl mewn rhai rhannau dros y 12 mis diwethaf. Ac wrth gwrs, er bod yna fwy o bobl yn cael eu trosglwyddo i CAMHS mae’r byrddau iechyd yn hyderus bod y sefyllfa yn mynd i ddangos bod pob gwasanaeth CAMHS ym mhob rhan o Gymru nawr yn cyrraedd y targed o 28 diwrnod cyn sefyll am apwyntiad newydd. So, mae lot fawr o bethau da wedi digwydd yn y gwasanaeth dros y flwyddyn ddiwethaf.