Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 9 Mai 2017.
Wel, mae Valley Steps yn ddull arloesol: ei nod yw gwella iechyd meddwl a lleihau rhagnodi cyffuriau gwrth-iselder. Rwyf yn ei longyfarch ar gyrraedd ei ben-blwydd cyntaf, ac rydym ni’n awyddus i ledaenu'r neges o fodelau arloesol fel hyn er mwyn annog cydweithio tebyg i gynorthwyo pobl â phroblemau iechyd meddwl, a bydd y gwaith hwnnw, wedyn, yn hysbysu mentrau newydd, gan gynnwys datblygu’r bond llesiant a'r cynlluniau rhagnodi cymdeithasol arbrofol. Felly, byddwn yn ystyried gwaith sefydliadau fel Valley Steps er mwyn sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei wneud yn cael ei gryfhau o ganlyniad i edrych ar ei brofiad.