<p>Gwella Iechyd Meddwl </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 9 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:00, 9 Mai 2017

A ydy’r Prif Weinidog wir yn sylweddoli faint o argyfwng sydd yn ein hwynebu ni o ran gofal iechyd meddwl yng Nghymru? Yn Ynys Môn rydw i’n deall nad oes yna rŵan yr un ymgynghorodd seiciatryddol ar gyfer cleifion iechyd meddwl rhwng 18 a 65 oed. Mae gweithwyr iechyd meddwl yn gweithio dan bwysau na allan nhw ymdopi â fo ac maen nhw’n ofni eu bod nhw’n gwneud penderfyniadau sydd yn golygu risg i gleifion. Mae diffyg gwlâu yn golygu bod pobl yn cael eu gyrru mor bell â Llundain i dderbyn gofal. Mae dwsinau o blant a phobl ifanc yn cael eu hanfon i Loegr i gael triniaeth. Mae dros 200 o gleifion iechyd meddwl y gogledd wedi cael eu trosglwyddo allan o Gymru yn y 22 mis diwethaf. Mae’r gyfundrefn gyfan ar ei gliniau. Pa bryd mae’r Llywodraeth am weithredu er mwyn gwarchod rhai o fy etholwyr mwyaf bregus i?