Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 9 Mai 2017.
Nid ydw i’n derbyn y ffigurau y mae’r Aelod wedi’u dweud yn y Siambr. Mae’n rhaid i fi ddweud yn gyntaf fod y cyllid i iechyd meddwl wedi mynd lan i £629 miliwn yn y flwyddyn ariannol i ddod. Mae hynny, wrth gwrs, wedi cael ei warchod hefyd. Mae’r byrddau iechyd wedi cyrraedd eu targedi nhw—maen nhw wedi heibio eu targedi nhw ynglŷn â gwasanaethu iechyd meddwl mewn rhai rhannau dros y 12 mis diwethaf. Ac wrth gwrs, er bod yna fwy o bobl yn cael eu trosglwyddo i CAMHS mae’r byrddau iechyd yn hyderus bod y sefyllfa yn mynd i ddangos bod pob gwasanaeth CAMHS ym mhob rhan o Gymru nawr yn cyrraedd y targed o 28 diwrnod cyn sefyll am apwyntiad newydd. So, mae lot fawr o bethau da wedi digwydd yn y gwasanaeth dros y flwyddyn ddiwethaf.