Part of 6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 9 Mai 2017.
Bydd UKIP yn cefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn. Roeddem yn ei chael hi’n anodd cysoni’r ffaith bod Bil iechyd y cyhoedd yn gwneud dim i fynd i'r afael â'r her iechyd cyhoeddus fwyaf sy'n wynebu ein cenedl—gordewdra. Fel yr amlygais yn ystod trafodion yr wythnos diwethaf ar ddiabetes, mae'n fater o gywilydd cenedlaethol bod bron i ddwy ran o dair o oedolion yng Nghymru a thraean o blant yng Nghymru dros eu pwysau neu'n ordew. Mae'n rhaid i ni ei gwneud yn glir bod mynd i'r afael â'r argyfwng gordewdra yn flaenoriaeth iechyd cyhoeddus i Lywodraeth Cymru, a’i gwneud yn ofynnol iddynt lunio strategaeth glir gyda chamau gweithredu clir yw'r ffordd orau o gyflawni hyn. Diolch yn fawr.