<p>Grŵp 6: Tatŵio Pelen y Llygad (Gwelliannau 36, 37, 38, 41, 35)</p>

Part of 6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 9 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 4:22, 9 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Oherwydd y darpariaethau blaenorol yn y Bil, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ymatal ar y gwelliannau canlynol sy'n ymwneud â thatŵio pelenni’r llygaid. Rydym yn derbyn mai bwriad y cynigydd yw sicrhau bod y weithdrefn beryglus dros ben hon ond yn cael ei gwneud gan unigolion medrus iawn. Fodd bynnag, ni chafodd y weithdrefn hon ei chodi fel mater yn ystod y cyfnod pwyllgor gan y gymuned feddygol, ac mae pryderon bod y gwelliant arfaethedig yn amharu ar allu unigolyn i wneud penderfyniadau am ei fywyd a'i iechyd ei hunan.

Bydd y darpariaethau a grëwyd gan welliant 22, yn ein barn ni, yn sicrhau y bydd dyletswydd ar y rhai sy’n rhoi trwyddedau i asesu gallu'r unigolyn i weinyddu'r gweithdrefnau hyn, gan y bydd angen iddyn nhw fod â phrofiad blaenorol a bod yn gymwys yn eu gallu i wneud hynny. Er nad yw hyn o reidrwydd yn ataliol, bydd yn rhoi mwy o sicrwydd y bydd y gweithdrefnau hyn yn cael eu gwneud mewn modd cymwys a phriodol, a byddem yn awgrymu i'r Gweinidog, yn enwedig o ystyried y ffordd hynod bwerus a disgrifiadol y mae’r cynigydd wedi disgrifio'r problemau sy'n gallu codi o datŵio pelen y llygad, fod hwn yn faes y gallai ddymuno ymgynghori ymhellach arno gyda'r bwriad o ychwanegu tatŵio pelen y llygad at y rhestr o weithdrefnau arbennig cyn gynted ag y bo modd.