Part of 6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 9 Mai 2017.
Mae Plaid Cymru yn falch o gefnogi’r gwelliannau yma. Rydym ni’n aml yn clywed am y trafferthion mae cleifion o bob oed yn eu cael pan fo yna amrywiaeth o gyrff cyhoeddus yn gyfrifol am y gwasanaethau maen nhw’n eu derbyn. Mae hyn yn cynnwys pobl ifanc. Nid ydyn nhw’n wahanol. Yn wir, mi allem ni ddadlau eu bod nhw mewn sefyllfaoedd mwy cymhleth weithiau, os ydych chi’n ychwanegu ysgol neu sefydliad addysgiadol arall fel haen arall o wasanaeth cyhoeddus sy’n rhan o benderfyniadau ynglŷn â gofal a chefnogaeth i bobl ifanc.
Rydw i, fel llawer yma, rydw i’n siŵr, wedi delio â nifer o achosion yn fy etholaeth i sy’n ymwneud â phroblemau iechyd meddwl pobl ifanc—rhai ohonyn nhw yn broblemau difrifol—ac mae rôl yr ysgol yn y driniaeth a’r gofal sydd yn cael ei ddarparu yn aml yn ganolog. Felly, mae cydweithio yn bwysig. Nid yw wastad yn digwydd fel y byddem ni yn ei ddymuno, ac mi fyddai’r gwelliant yma, o leiaf, yn arwain at yr angen i adrodd nôl ar y lefel o gydweithio sydd yn digwydd. Rydw i hefyd yn falch o weld bod y gwelliant yn nodi’n benodol y dylai adroddiadau gyfeirio at lefelau gordewdra—wrth gwrs, rhywbeth rydym ni wedi cyfeirio ato fo yn gynharach yma, y prynhawn yma—ac at faeth, a hefyd yn pwysleisio’r angen fod negeseuon iechyd cyhoeddus yn cael eu cyfathrebu yn effeithiol efo pobl ifanc, ac yn cael eu cyfathrebu mewn ffordd sydd yn cael ei gweld fel bod yn berthnasol i bobl ifanc. Felly, rydym ni’n hapus i gefnogi’r gwelliannau’r yma.