6. 6. Dadl ar Gyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Senedd Cymru am 5:21 pm ar 9 Mai 2017.
Mae’r grŵp olaf o welliannau yn ymwneud â chanllawiau ynglŷn â mynd i mewn i anheddau. Gwelliant 30 yw’r prif welliant yn y grŵp hwn. Rwy’n galw ar David Melding i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant hwn ac am welliannau eraill yn y grŵp. David Melding.
Diolch yn fawr, Llywydd. Cynigiaf welliant 30 yn fy enw i ac yr wyf yn siarad hefyd ynglŷn â fy ngwelliant 31.
Mae gwelliant 30 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau i awdurdodau gorfodi, cwnstabliaid a swyddogion awdurdodedig ar fynd i mewn i eiddo a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd, hynny yw, cartrefi pobl, o dan y Bil. Mae'n deillio o argymhelliad yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am y Bil a phryder na fydd cynllun cyfathrebu y Bil yn ddigon trylwyr o ran sicrhau bod swyddogion gorfodi yn gwbl sicr o’u rhwymedigaethau hawliau dynol. Y prif hawliau dynol dan sylw yng nghyd-destun cartrefi pobl yw erthygl 8, sy'n darparu ar gyfer yr hawl dynol i barch at y cartref a bywyd preifat a theuluol, ac erthygl 1 o brotocol 1, sy'n darparu’r hawl dynol i fwynhau eiddo yn heddychlon.
Mae'r gwelliant, felly, yn cyflwyno gofyniad penodol i’r canllawiau gynnwys y ddau hawl dynol hynny. Gall y canllawiau bob amser gynnwys canllawiau ehangach eraill ar bwerau i fynd i mewn i gartrefi pobl, ond mae'n rhaid iddynt gynnwys canllawiau ar gyfer y ddau hawl dynol hyn, oherwydd eu bod yn berygl gwirioneddol iawn neu fod perygl gwirioneddol iawn, yn hytrach, y gellid torri’r hawliau dynol hyn pan fydd pwerau mynediad yn cael eu defnyddio.
Rwy’n derbyn bod rhai mesurau diogelu wedi’u cynnwys yn y Bil. Er enghraifft, mae'n rhaid i ynad heddwch gyflwyno gwarant i fynd i mewn i annedd, ac yn dilyn pwysau gan y pwyllgor, gwnaeth y Gweinidog gytuno y bydd awdurdodau gorfodi bob amser yn gyrff cyhoeddus. Mae hynny'n ddatblygiad sylweddol. Fodd bynnag, mae'r gwelliant yn rhoi cyfle i fynd ymhellach trwy ddarparu ar gyfer canllawiau wedi'u targedu y gall awdurdodau gorfodi ddod o hyd iddynt, a’u darllen, a’u deall a’u rhoi ar waith yn rhwydd. Mae hynny'n mynd i graidd y gwelliant, eu bod ar gael yn rhwydd i swyddogion gorfodi sydd fel arfer yn weithwyr yr awdurdod lleol, ac efallai na fyddant yn wybodus iawn am y maes a'r rhwymedigaethau a grëwyd gan y gyfraith hawliau dynol.
Mae'r gwelliant yn cynnwys yr holl bwerau mynediad o dan y Bil, nid dim ond y pwerau mynediad sy'n berthnasol i'r gwaharddiad ysmygu yn Rhan 2 o’r Bil. Felly, y meysydd sydd wedi’u cynnwys yn y gwelliant yw pwerau mynediad sy'n berthnasol i'r gwaharddiad ysmygu, cofrestru manwerthwyr cynhyrchion tybaco a nicotin, y drefn drwyddedu ar gyfer gweithdrefnau arbennig, megis aciwbigo, tyllu'r corff, tatŵio ac electrolysis, a’r drosedd o roi twll mewn rhan bersonol o gyrff pobl o dan 18 oed. Yn fy marn i, ni fyddai ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi canllawiau yn y cyd-destun penodol hwn yn bwrw amheuaeth mewn unrhyw ffordd ar ddeddfwriaeth arall nad yw'n cynnwys dyletswydd i gyhoeddi canllawiau.
Yn ei llythyr i'r pwyllgor ar 10 Mawrth, awgrymodd y Gweinidog y bydd cyrff cyhoeddus yn gweld bod dyletswydd i gyhoeddi canllawiau ac yn drysu ynghylch gweithrediad deddfwriaeth arall nad yw'n cynnwys y ddyletswydd hon i gyhoeddi canllawiau. Mae'n debyg bod gan y Gweinidog weledigaeth y bydd swyddogion gorfodi a gweision cyhoeddus perthnasol eraill yn cyfarfod o bryd i'w gilydd er mwyn trafod yr ystod eang gyfan o ddeddfwriaeth, yn arbennig yr hyn sy’n ymwneud â hawliau dynol, gan nodi bod angen penodol am ganllawiau yn y maes hwn oherwydd peryglon y bydd gweithdrefnau gorfodi yn torri hawliau dynol, ac yna nodi nad yw amodau tebyg i’w gweld mewn deddfwriaeth flaenorol, ac felly bod hyn rywsut yn eu gwneud yn ofnadwy o ddryslyd. Rwyf yn ei gwahodd i wneud rhywfaint o synnwyr o’r diffyg cysylltiad hwnnw yr wyf i newydd ei ddisgrifio.
Mewn llythyr dilynol, dyddiedig 18 Ebrill, dywedodd y Gweinidog hefyd fod gan y gwelliant y potensial i fwrw amheuaeth ar gydlyniad cyffredinol y gyfraith, ac ar weithredu'r cyfyngiadau penodol ar y defnydd o'r pwerau.
Rwy’n ystyried y rhan ddiwethaf ychydig yn fygythiol, ond rwyf o’r farn bod y sylw cyfan ac ymateb y Gweinidog i'r gwelliannau penodol ac adeiladol iawn y gwnaeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, wedi bod yn hynod amwys, ac rwy’n credu bod bwrw amheuaeth ar gydlyniad y gyfraith, pe bai’r gwelliant yn cael ei basio, yn anffodus iawn. Efallai y cawn dynnu sylw'r Cynulliad i ddyfarniad y Goruchaf Lys a gyhoeddwyd y llynedd yn achos y Christian Institute ac eraill yn erbyn Arglwydd Adfocad yr Alban, lle’r oedd y dyfarniad a gyhoeddwyd gan y Goruchaf Lys yn rhybuddio rhag peryglon cael deddfwriaeth sy’n dibynnu dim ond ar sicrhau bod awdurdod cyhoeddus yn ymwybodol o'i rwymedigaethau hawliau dynol. Ac ym mharagraff 101 y dyfarniad hwnnw, dywedodd y Goruchaf Lys fod angen canllawiau er mwyn lleihau'r risg o ymyrraeth anghymesur sy'n torri hawliau dynol. Allwn i ddim meddwl am ddiffiniad gwell o'r hyn y gallai mynd i gartrefi pobl er mwyn sicrhau gorfodaeth briodol fod, o ran enghraifft well, mewn gwirionedd, o’r perygl a wynebwn yma.
A gaf i ddweud, felly, fod gwelliant 31 yn ymwneud â dechrau'r ddarpariaeth newydd hon? Ac esboniaf i’r Aelodau, os na wneir unrhyw ddarpariaeth benodol ar gyfer cychwyn, byddai’r adran newydd hon, os caiff ei chytuno, yn disgyn yn awtomatig o fewn adran 133 (2) o'r Bil, sy'n golygu na fyddai’n dod i rym oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu dod â hi i rym. Diben y gwelliant yw cychwyn yr adran newydd arfaethedig ar ganllawiau ar y diwrnod y mae'r Ddeddf yn derbyn Cydsyniad Brenhinol, gan roi neges glir bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi’r canllawiau o fewn cyfnod rhesymol. Rwyf yn cynnig felly.
Galwaf ar y Gweinidog, Rebecca Evans.
Diolch. Byddai'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau ar gyfer awdurdodau gorfodi ar arfer y pwerau mynediad ac archwilio ym mhob rhan o’r Mesur. Byddai'r canllawiau yn ymdrin â sut i sicrhau cydymffurfio â hawliau'r confensiwn o ran eiddo sy'n cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd. Mae'r mater hwn wedi ei drafod gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn gynharach yn y broses o graffu ar y Bil, ac rwyf wedi cyfathrebu â'r pwyllgor ynghylch y pwynt penodol hwn.
Wrth ystyried y gwelliannau, fy man cychwyn i yw fy mod i’n cytuno’n llwyr bod cydymffurfio â rhwymedigaethau hawliau dynol yn hollbwysig. Nid wyf yn anghytuno o gwbl felly â’r bwriad sy'n sail i’r gwelliannau, ac rwy’n gwerthfawrogi barn gref David Melding ar hyn. Fodd bynnag, fel yr wyf wedi’i amlinellu yn ddiweddar mewn gohebiaeth i'r pwyllgor, rwy’n parhau i fod o’r farn bod gwelliannau penodol sy'n cyfeirio at gydymffurfio â rhwymedigaethau hawliau dynol yn y Bil yn ddiangen. Yn bwysig, maent hefyd mewn perygl o beri dryswch yn anfwriadol gan nad yw darpariaethau tebyg wedi eu cynnwys mewn deddfwriaeth arall. Nodaf modd coeglyd David Melding o gwestiynu’r egwyddor hon, ond dyna yw fy marn i o hyd.
Deuthum i'r casgliad hwn am nifer o resymau. Yn gyntaf, mae awdurdodau cyhoeddus eisoes yn destun dyletswydd statudol gyffredinol o dan adran 6 o Ddeddf Hawliau Dynol 1998 i weithredu'n gydnaws â hawliau'r confensiwn wrth gyflawni eu swyddogaethau. Mae awdurdodau cyhoeddus fel yr heddlu ac awdurdodau lleol eisoes yn gyfarwydd iawn â'r gofynion, a dylent weithredu yn unol â hynny. Yn ail, rhoddwyd ystyriaeth briodol eisoes i'r mater hwn yn y Bil. Mae cyfres o gyfyngiadau a chamau diogelu penodol wedi’u cynnwys yn y Bil o ran sut y dylai swyddogion awdurdodedig arfer pwerau mynediad ac archwilio. Er enghraifft, ni chaiff swyddogion awdurdodedig fynd i mewn i eiddo drwy rym oni bai fod ganddynt warant wedi’i llofnodi gan ynad heddwch, ac mae gwarant o'r fath yn ddilys am gyfnod cyfyngedig o amser yn unig. Atgyfnerthwyd y mesurau diogelu hyn eto yng Ngham 2 pan gytunwyd ar welliannau sy'n darparu diogelwch ychwanegol i berchnogion tai. Mae'r rhain yn helpu i sicrhau y caiff pwerau mynediad eu harfer mewn modd cymesur a phriodol, sy'n arbennig o bwysig wrth ystyried anheddau preifat. Er enghraifft, os bydd deiliad yr eiddo yn bresennol pan fydd warant yn cael ei gweithredu, mae'r Bil yn darparu y byddai angen i'r swyddog awdurdodedig roi ei enw, tystiolaeth ddogfennol ei fod yn swyddog awdurdodedig, a rhoi copi o’r warant i’r deiliad.
Credaf fod mesurau diogelu penodol, ymarferol o'r fath yn darparu gwell ffordd o amddiffyn hawliau unigolion na'r dull a awgrymir yn y gwelliannau hyn. Maent hefyd yn dangos y meddwl a’r gwaith manwl sy'n digwydd o ran ystyriaethau hawliau dynol, a’r pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i’r materion hyn. Byddwn i hefyd yn pwysleisio mai’r awdurdodau cyhoeddus fydd yr awdurdodau gorfodi o dan y Bil hwn. Golyga hyn mai dim ond sefydliadau sydd eisoes wedi eu rhwymo gan rwymedigaethau hawliau dynol ac sy’n hyddysg iawn mewn cydymffurfio â nhw fydd yr awdurdodau gorfodi, a fydd, unwaith eto, yn helpu i sicrhau bod y pwerau yn cael eu defnyddio'n briodol.
Mae canllawiau sefydledig eisoes ar waith o dan god ymarfer yr heddlu ar gyfer arfer pwerau mynediad, chwilio ac atafaelu statudol, a elwir yn Cod B PACE, sy'n ymdrin â'r mater hwn yn ddigonol. Mae hyn yn berthnasol i'r heddlu a swyddogion awdurdodau lleol wrth ymchwilio troseddau, ac mae’n rhoi pwyslais clir ar weithredu yn unol â Deddf Hawliau Dynol 1998. Pe byddai canllawiau ar wahân yn cael eu cyflwyno ar gyfer y Bil hwn, byddai risg sylweddol o beri dryswch yn anfwriadol, ac o fwrw amheuaeth ar gydlyniad cyffredinol y fframwaith deddfwriaethol presennol sydd eisoes wedi’i ymgorffori'n dda ledled Cymru. Am y rhesymau hyn, ni allaf gefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn.
Galwaf ar David Melding i ymateb i’r ddadl.
Wel, Llywydd, ni fyddwch yn synnu nad wyf i wedi fy argyhoeddi yn llwyr gan amddiffyniad y Gweinidog, mewn gwirionedd, o gyndynrwydd y Llywodraeth, er gwaethaf y dystiolaeth a geir o’r pryderon gwirioneddol iawn. Un o'r ffynonellau a ddyfynnaf yw’r Goruchaf Lys.
A gaf i, fodd bynnag, ddiolch iddi am ei gohebiaeth ac am o leiaf dweud wrthym beth yw safbwynt y Llywodraeth? Roedd hynny’n ddefnyddiol. Roedd y cynnig bod yn rhaid i swyddogion gorfodi fod yn awdurdodau cyhoeddus, yn ddefnyddiol yn fy marn i. Croesawaf hynny hefyd. Ond, wyddoch chi, 'diangen a dryslyd'? Felly, os oes rhywbeth yn bodoli eisoes yn y gyfraith, ni allwch chi fyth wneud datganiad clir am y peth. Os oes rhywbeth blaenorol, ni waeth pryd—wyddoch chi, daw PACE o'r 1980au, rwy'n credu, yn wreiddiol—ni allwch ei ddatgan oherwydd y gallai drysu’r rhai sy’n darllen y gyfraith newydd hon, oherwydd, wrth gwrs, byddant yn chwilio trwy’r ddeddfwriaeth sy’n frith yn y llyfrau statud—peth ohoni yn ddegawdau oed. Yn wir, does bosib y gall hyn gael ei dderbyn yn wrthwynebiad difrifol i'r hyn y byddwn i’n gobeithio fyddai’n broses ddeddfu resymol? Mae hyn i mi yn dorcalonnus.
Ac yna’r busnes hwn am y ffaith bod awdurdodau cyhoeddus eisoes wedi eu nodi a bod modd peri dryswch, ond maent eisoes yn cael eu nodi o dan rwymedigaethau cyffredinol. Glywsoch chi yr hyn a ddywedais am ddyfarniad y Goruchaf Lys yn dweud na allwch chi ddibynnu ar y dybiaeth honno, a bod yn rhaid i chi ddatblygu mewn canllawiau ddealltwriaeth glir o gamau gweithredu penodol a allai amharu ar hawliau dynol? Fel o dan y Bil arfaethedig hwn, mae pwerau gorfodi yn gorffwys gyda phobl mewn awdurdodau lleol sy’n mynd i mewn i gartrefi pobl, gan ein bod yn siarad, fel arfer, am ymarferwyr eithaf bach a allai fod yn defnyddio eu cartrefi fel rhan o'u heiddo. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i’n credu y gallwn ni ddisgwyl ychydig yn well na diystyraeth syml pan fyddwn yn defnyddio awdurdod fel y Goruchaf Lys.
Ac yna, PACE. A gaf i—? Mi wnes i ragweld y gellid defnyddio hyn fel amddiffyniad braidd yn anobeithiol gan y Llywodraeth: Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 a'i chodau. Yr hyn y mae'r Gweinidog yn sôn amdanynt yn bennaf yw’r codau ar gyfer swyddogion yr heddlu, a luniwyd i ddangos sut i ymateb mewn sefyllfaoedd penodol y mae swyddogion yr heddlu yn aml yn dod ar eu traws wrth arfer eu dyletswyddau pwysig. Rydym yn sôn am awdurdodau lleol a’r bobl sy'n gweithio iddynt, sy’n swyddogion gorfodi dynodedig. Nid swyddogion yr heddlu mohonynt. Ni allwn gymryd yn ganiataol y byddai ganddynt yr wybodaeth fanwl a’r hyfforddiant y mae swyddogion yr heddlu yn eu cael drwy PACE, a gyflwynwyd yn wreiddiol oherwydd arferion gwael ac anghyson, ac, yn anad dim, mae’r gofynion yn PACE yn frith drwyddo. Nid oes dim yn PACE sy'n dweud sut i ymddwyn yn briodol wrth orfodi rhwymedigaethau o dan Fil iechyd y cyhoedd neu Ddeddf iechyd y cyhoedd a basiwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol. Rwyf yn credu mai gwaith y Llywodraeth weithiau yw mynd ati’n wirioneddol i brofi a chraffu ar ei chyngor ei hun a gaiff gan ei chynghorwyr, ac yn yr achos hwn, yn fy marn i, rydych chi’n ddiffygiol dros ben.
Os na dderbynnir gwelliant 30, bydd gwelliant 31 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 30? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad]. Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 20, pedwar yn ymatal, 26 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 30 wedi ei wrthod.
Gwelliant 28, Gweinidog.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 28? A oes unrhyw wrthwynebiad?
No objection.
Derbyniwyd gwelliant 28, felly.
Gwelliant 2, Rhun ap Iorwerth.
Fe wnaethom ni basio un fanna, rydw i’n meddwl.
Mae’n ddrwg gen i, rydw i nawr wedi cymysgu. Gwelliant 29, Gweinidog.
Ie, yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 29? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 29.
Gwelliant 2, Rhun ap Iorwerth.
Ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 5, Gweinidog.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 5? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 1, Rhun ap Iorwerth.
Ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 1.
Ac fe rydym ni yn awr wedi dod i ddiwedd ystyriaeth Cyfnod 3 o Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). Rwy’n datgan felly y bernir bod pob adran o’r Bil a phob Atodlen wedi’u derbyn.
Daw hynny, felly, â thrafodion Cyfnod 3 â thrafodion heddiw i ben.