Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 10 Mai 2017.
Diolch, Angela. Yn gyntaf, a gaf fi ddweud fy mod yn credu ei bod yn bwysig i bob dysgwr gael cyfle, yn y cyfnod ôl-16, i ddewis cyrsiau sy’n adlewyrchu ystod eang o ddiddordebau a galluoedd ac sy’n berthnasol i amgylchiadau unigol? Nawr, yn unol ag argymhellion yr adolygiad o gymwysterau, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i annog pob ysgol i fabwysiadu Bagloriaeth Cymru. Ond fel roeddech yn hollol iawn i ddweud y prynhawn yma, nid yw’n ofyniad statudol i ddysgwyr ei ddilyn, ac nid yw’n orfodol i ganolfannau ei ddarparu. Er ein bod yn annog ysgolion a cholegau i gyflwyno bagloriaeth Cymru oherwydd ei fudd i’w myfyrwyr, gall dysgwyr gael eu heithrio rhag y pwnc ar eu cais. O ran mesurau atebolrwydd arbenigol, rwyf wedi ymrwymo i adolygu mesurau atebolrwydd arbenigol er mwyn inni gael adlewyrchiad cywirach a gwell o safonau ysgolion, ac mae swyddogion wrthi’n gweithio ar hyn.