1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 10 Mai 2017.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y broses o gyflwyno Bagloriaeth Cymru? OAQ(5)0117(EDU)
Diolch, Angela. Cyflwynwyd bagloriaeth Cymru newydd, fwy trylwyr, ym mis Medi 2015, a chredaf yn gryf y bydd dysgwyr yng Nghymru yn elwa o’i hastudio. Rwy’n dal i ddisgwyl i bob ysgol yng Nghymru ddarparu bagloriaeth Cymru yng nghyfnod allweddol 4 ac i bob sefydliad ôl-16 weithio tuag at ei rhoi ar waith yn llawn erbyn 2019-20.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Ond mae gennyf bryder o ran y modd y caiff bagloriaeth Cymru ei rhoi ar waith, a hoffwn eich barn ynglŷn â hynny. Mae gennym unigolion sydd ar ben uchel-weithredol y sbectrwm awtistig, neu sydd ag anghenion dysgu eraill, sydd er hynny’n gallu ymdopi â phynciau academaidd. Fodd bynnag, mae’r unigolion hyn yn aml yn ei chael yn anodd ymgymryd ag elfen her sgiliau’r fagloriaeth, lle rhoddir pwyslais ar heriau unigol a lle mae’n rhaid i ddysgwyr weithio fel tîm. Mae gennyf enghreifftiau o sefyllfaoedd lle mae dysgwyr yn dechrau dioddef o salwch meddwl neu’n gwrthod mynd i’r ysgol oherwydd y straen o ymdopi â sefyllfa o’r fath. Yn wir, bu tad un o fy etholwyr ar wyliadwriaeth hunanladdiad gan ei fod mor bryderus am ei blentyn.
Ond mae ysgolion yn bod yn llym ac yn gwrthod eithrio dysgwyr rhag gwneud y fagloriaeth, er bod y canllawiau cyfredol yn dweud nad yw’n ofyniad statudol. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n amau bod yr ysgolion yn bod yn llym fel hyn oherwydd, ac rwy’n dyfynnu canllawiau Estyn,
‘bydd cyflawni Bagloriaeth Cymru yn un o fesurau perfformiad ysgolion yng nghyfnod allweddol 4 a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i adrodd ar safonau ysgol o 2018 ymlaen.’
Sut y byddwch yn sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion dysgwyr unigol, a dyhead ysgolion i wneud yn siŵr nad ydynt ar ei hôl hi o ran safonau ysgolion?
Diolch, Angela. Yn gyntaf, a gaf fi ddweud fy mod yn credu ei bod yn bwysig i bob dysgwr gael cyfle, yn y cyfnod ôl-16, i ddewis cyrsiau sy’n adlewyrchu ystod eang o ddiddordebau a galluoedd ac sy’n berthnasol i amgylchiadau unigol? Nawr, yn unol ag argymhellion yr adolygiad o gymwysterau, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i annog pob ysgol i fabwysiadu Bagloriaeth Cymru. Ond fel roeddech yn hollol iawn i ddweud y prynhawn yma, nid yw’n ofyniad statudol i ddysgwyr ei ddilyn, ac nid yw’n orfodol i ganolfannau ei ddarparu. Er ein bod yn annog ysgolion a cholegau i gyflwyno bagloriaeth Cymru oherwydd ei fudd i’w myfyrwyr, gall dysgwyr gael eu heithrio rhag y pwnc ar eu cais. O ran mesurau atebolrwydd arbenigol, rwyf wedi ymrwymo i adolygu mesurau atebolrwydd arbenigol er mwyn inni gael adlewyrchiad cywirach a gwell o safonau ysgolion, ac mae swyddogion wrthi’n gweithio ar hyn.
Rwy’n falch o glywed, Ysgrifennydd y Cabinet, nad yw’n rhwymedigaeth ar y myfyriwr i lynu wrth fagloriaeth Cymru. Rwy’n deall y dylai fod yn rhwymedigaeth ar y darparwr addysg i roi cyfleoedd i fyfyrwyr, a chredaf fod yr agwedd wirfoddoli cymunedol a’r agwedd gydnerthedd emosiynol yn rhannau pwysig iawn o addysg unrhyw un.
Ond rwyf wedi derbyn gohebiaeth gan bobl yn mynegi pryder eu bod, drwy gael eu gorfodi i wneud bagloriaeth Cymru, yn gorfod cyfyngu ar eu dewisiadau o ran yr hyn y byddent yn dewis ei astudio. A chredaf fod hwnnw’n achos pryder arbennig yng nghyfnod allweddol 5, pan fo myfyrwyr o bosibl yn cystadlu i gael eu derbyn i rai o’r prifysgolion mwyaf cystadleuol. Bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud ar sail Safon Uwch, ac mae lleoedd fel Caergrawnt a Warwick yn gofyn am dair Safon Uwch, ac nid yw bagloriaeth Cymru yn cael ei hystyried. Felly, credaf ei bod yn eithaf pwysig nad ydym yn gorfodi myfyrwyr, yng nghyfnod allweddol 5 yn arbennig, pan nad ydynt bellach mewn addysg orfodol, i’w wneud, ac y dylai fod lle yn y system, yng nghyfnod allweddol 4, i alluogi myfyrwyr y byddai’n well ganddynt ddilyn opsiwn arall i optio allan. A thybed a allwch roi arweiniad ynglŷn ag a yw hynny’n bosibl mewn gwirionedd.
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn a’i sylwadau? Ond gadewch i mi fod yn gwbl glir, bwriad bagloriaeth Cymru yw ceisio darparu ehangder ychwanegol i ddysg pobl ifanc yng Nghymru a’u cynorthwyo i gaffael sgiliau, sy’n ddymunol, yn fy marn i, i brifysgolion ac i gyflogwyr. Nawr, mae hyblygrwydd y cydrannau yn caniatáu i ganolfannau ddarparu ar gyfer anghenion unigol y myfyrwyr, gan roi platfform i fyfyrwyr archwilio a chynyddu eu gwybodaeth fanwl a phwnc-benodol. Mewn perthynas â sefydliadau’n derbyn bagloriaeth Cymru, gadewch i mi fod yn glir fod y mwyafrif helaeth o brifysgolion yn derbyn bagloriaeth Cymru. Mae Cymwysterau Cymru wedi dynodi pwyntiau Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau iddi oherwydd y safonau uchel, trylwyr sydd ynghlwm wrthi, ac rwy’n gyson yn cyfarfod â phobl ifanc a rhieni sy’n dweud wrthyf fod eu plentyn wedi sicrhau lle mewn prifysgol uchel ei pharch ar sail cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Er enghraifft, merch ifanc a fu ar brofiad gwaith gyda mi a fydd yn dechrau ar ei chwrs gradd yng Nghaerdydd ym mis Medi. Yr wythnos hon, dywedodd Tudur Owen, y digrifwr Cymraeg wrthyf yn y gwobrau addysgu fod ei fab wedi ennill ei le ym Mhrifysgol Bryste y llynedd ar sail ei gymhwyster bagloriaeth Cymru. Gadewch i ni fod yn gwbl glir: mae’r cymhwyster yn ychwanegu gwerth i fyfyrwyr, ac nid yw’n tynnu dim oddi ar eu cyfleoedd i astudio yn y prifysgolion uchaf eu parch, boed yma yng Nghymru neu yn unrhyw le arall.