Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 10 Mai 2017.
Diolch, Nick. Mae’r rhaglen lywodraethu yn ymrwymo i ddarparu cymorth a gwasanaethau yn unol â chyfamod y lluoedd arfog, ac felly, bydd yr un safonau a mynediad at addysg yn berthnasol i blant aelodau’r lluoedd arfog ag i holl ddinasyddion eraill y DU yn yr ardal lle maent yn byw. Mae data’n parhau i fod yn broblem, yma yng Nghymru ac yn genedlaethol. Rwy’n siŵr y bydd llawer o Aelodau’r Cynulliad wedi manteisio ar y cyfle ddoe i siarad ag aelodau o’r lleng Brydeinig a fu yma’n hyrwyddo eu hymgyrch, o ran cynnwys cwestiynau penodol yng nghyfrifiad nesaf Llywodraeth San Steffan fel y gallwn gael gwell dealltwriaeth o natur y peth. Fel arfer, yng Nghymru, mae diffyg data yn parhau i fod yn broblem ac rwy’n parhau, gyda fy swyddogion, i archwilio’r ffordd orau o nodi nifer y plant dan sylw, lle maent, a’r ffordd fwyaf effeithlon a llwyddiannus y gallwn eu cefnogi.