<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 10 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 1:43, 10 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Gadewch i mi fod yn gwbl glir: os yw ysgol yn cael ei rhoi mewn categori oren neu goch, nid yw hynny’n arwydd fod yr ysgol yn methu. Cyflwynwyd y system gategoreiddio i nodi lefelau o gefnogaeth y mae angen i’r ysgol honno eu gwella, ac er fy mod yn gweithio tuag at sefyllfa lle nad oes unrhyw ysgol yng Nghymru yn y categori oren neu goch, dylai’r Aelod gydnabod bod nifer yr ysgolion sy’n cael eu rhoi yn y categorïau gwyrdd neu felyn yn cynyddu. Rwy’n cymeradwyo athrawon a phenaethiaid yr ysgolion hynny sy’n codi’r safonau.

Dylai’r Aelod fod yn glir iawn, yn ei rôl fel llefarydd addysg ei phlaid, beth yw gwerth a diben categoreiddio, ac fe’i camfynegwyd gennych yn llwyr yn eich cwestiwn heddiw.