1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 10 Mai 2017.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd UKIP, Michelle Brown.
Diolch, Llywydd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ag UKIP y dylai rhieni allu sbarduno arolygiad Estyn o ysgol eu plentyn os oes ganddynt bryderon penodol ynglŷn â’r ysgol?
Nac ydw. Mae Estyn, yr arolygiaeth annibynnol, yn penderfynu ar eu rhaglen eu hunain o gyfundrefnau arolygu, ac fel arolygiaeth annibynnol, sy’n rhydd o unrhyw ymyrraeth gan y Llywodraeth, eu penderfyniad hwy yw nodi’r ffordd orau i fynd ati i arolygu ysgolion.
Diolch am eich ateb. Nodaf nad yw Estyn yn edrych ar gyfraddau gadael ysgolion nac ar farn rhieni, gan fethu arwyddion posibl o broblem yn yr ysgol. Os yw rhiant yn tynnu plentyn o’r ysgol oherwydd problem gyda’r ysgol, gallai hynny fod o ganlyniad i bryderon ynglŷn ag addysgu gwael neu oherwydd rhywbeth roeddent eisoes wedi ceisio’i ddatrys gyda’r ysgol. Hefyd, gallai fod yn syml am eu bod wedi symud tŷ, wrth gwrs. Felly, dylid gofyn i rieni sy’n cymryd y cam o dynnu plentyn o’r ysgol o ganlyniad i faterion penodol pam eu bod yn symud y plentyn fel y gellir tynnu sylw at broblemau. Felly, onid ydych yn credu y dylai Estyn gynnwys hynny yn eu hadroddiad?
Gadewch i ni fod yn glir: mae Estyn o ddifrif ynglŷn â materion ysgol sy’n ymwneud â phresenoldeb ac maent yn eu hystyried yn eu hadroddiadau. Gwyddom mai lefelau uchel o bresenoldeb, a phresenoldeb rheolaidd, yw’r pethau gorau y gall rhiant eu gwneud i wella a chefnogi cynnydd addysgol eu plant.
O ran y rhesymau posibl pam fod plant yn symud ysgol, nid wyf yn credu bod hwnnw’n fater strategol rydym angen i Estyn edrych arno. Os oes gan rieni bryderon ynglŷn â safonau mewn ysgol, mae amrywiaeth o ffyrdd y gellir mynd i’r afael â’r pryderon hynny, yn bennaf drwy gadeiryddion cyrff llywodraethu pob ysgol unigol, ac os nad ydynt yn fodlon â hynny, drwy’r awdurdod addysg lleol.
Iawn, diolch am hynny. Fel y gwyddoch, mae gormod o ysgolion yn y categorïau oren a choch. A ddylid sicrhau mecanwaith sy’n ei gwneud yn haws nag yw hi ar hyn o bryd i blant sy’n mynychu ysgol yr aseswyd ei bod yn y categori oren neu goch newid i ysgol nad yw’n methu?
Gadewch i mi fod yn gwbl glir: os yw ysgol yn cael ei rhoi mewn categori oren neu goch, nid yw hynny’n arwydd fod yr ysgol yn methu. Cyflwynwyd y system gategoreiddio i nodi lefelau o gefnogaeth y mae angen i’r ysgol honno eu gwella, ac er fy mod yn gweithio tuag at sefyllfa lle nad oes unrhyw ysgol yng Nghymru yn y categori oren neu goch, dylai’r Aelod gydnabod bod nifer yr ysgolion sy’n cael eu rhoi yn y categorïau gwyrdd neu felyn yn cynyddu. Rwy’n cymeradwyo athrawon a phenaethiaid yr ysgolion hynny sy’n codi’r safonau.
Dylai’r Aelod fod yn glir iawn, yn ei rôl fel llefarydd addysg ei phlaid, beth yw gwerth a diben categoreiddio, ac fe’i camfynegwyd gennych yn llwyr yn eich cwestiwn heddiw.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae disgyblion ledled Cymru, wrth gwrs, dros yr wythnos ddiwethaf wedi bod yn sefyll eu profion llythrennedd a rhifedd cenedlaethol, ac mae tystiolaeth yn dangos i ni fod profion safonedig arbenigol yn culhau’r cwricwlwm ac yn effeithio’n negyddol ar greadigrwydd yn yr ystafell ddosbarth, gan arwain at y perygl o addysgu plant ar gyfer y prawf, ac nad yw’r amcan yn y pen draw yn ymwneud â gwella addysg y plant, ond yn hytrach â gwella eu gallu i lwyddo mewn profion. Mae hynny, wrth gwrs, yn gwrthdaro’n llwyr â’r argymhellion a gyflwynwyd gan adolygiad Donaldson ar gyfer y cwricwlwm ac sy’n cael eu rhoi ar waith.
Felly, a gaf fi ofyn: a oes gwir angen system brofi fras ac anghynnil arnom i ddweud wrthym yr hyn y mae athrawon, drwy eu hasesiadau, yn ei wybod eisoes?
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiynau ynghylch profion safonedig? Gadewch i mi fod yn gwbl glir ynglŷn â diben yr asesiadau hynny, gan mai dyna yw eu prif ddiben. Mae’n darparu ffordd arall o asesu lle mae plentyn arni yn ei addysg—ffordd annibynnol o wneud hynny. A chredaf fod hynny’n darparu sicrwydd a ffynhonnell bwysig o wybodaeth i athrawon, i benaethiaid, ac yn hanfodol, i rieni hefyd. Mae’n darparu’r cerrig sylfaen ar gyfer y sgyrsiau hynny gydag athro eich plentyn ynglŷn â’r ffordd orau o gynorthwyo eich plentyn i gyrraedd ei lawn botensial. Fodd bynnag, rwyf wedi cydnabod bod yr asesiadau hyn, mewn nifer o ffyrdd, yn rhai bras, a dyna pam y cyhoeddais fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yr wythnos diwethaf i ddatblygu profion ymaddasol ar-lein, a fydd yn rhoi ffordd hyd yn oed yn well o asesu lle mae plentyn arni yn ei addysg.
Ie, ac os ydych yn mynd ar drywydd profion, yn amlwg, fel y dywedais mewn ymateb i’ch cyhoeddiad, byddai unrhyw beth sy’n helpu i leihau llwyth gwaith athrawon—er enghraifft, drwy brofion ar-lein—yn rhywbeth i’w groesawu, cyhyd â’n bod yn gwylio rhag datblygu diwylliant ‘cyfrifiadur yn dweud ie neu gyfrifiadur yn dweud na’. Mewn perthynas â phwysau llwyth gwaith ar y gweithlu, fe fyddwch hefyd yn gwybod bod Cyngor y Gweithlu Addysg wedi cyhoeddi arolwg yn ddiweddar a oedd yn amlygu rhai o’r meysydd mwyaf cyffredin sy’n effeithio ar allu athrawon i reoli eu llwyth gwaith yn effeithiol, gyda mwy na thri chwarter y gweithlu yn crybwyll gweinyddu a gwaith papur, a bron i hanner yn dweud eu bod yn ei chael hi’n anodd ffitio cynnwys y cwricwlwm i mewn i’r oriau addysgu sydd ar gael. Dywedodd bron i 90 y cant o ymatebwyr yr arolwg nad oeddent yn gallu rheoli eu llwyth gwaith o fewn yr oriau gwaith y cytunwyd arnynt. Ac mae tystiolaeth hefyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fod athrawon yng Nghymru yn gweithio oriau llawer anoddach a hirach nag athrawon mewn gwledydd eraill. Mae hynny’n amlwg yn effeithio ar ansawdd yr addysgu yng Nghymru, ac yn sicr yn effeithio hefyd ar recriwtio a chadw staff, ac yn creu nifer o anawsterau yn y cyswllt hwnnw. Felly, gyda chyflog ac amodau athrawon yn cael eu datganoli, onid yw’n bryd edrych eto ar y cytundeb cenedlaethol, yn enwedig mewn perthynas â llwyth gwaith, i gynorthwyo’r byd addysg i osgoi’r math o argyfwng a welsom dros y blynyddoedd diwethaf ym maes iechyd?
Diolch, Llyr. A gaf fi fod yn gwbl glir mai’r prif reswm dros fuddsoddi mewn profion ymaddasol ar-lein yw ein bod yn credu y byddant yn fwy defnyddiol wrth asesu dysgu ac ar gyfer codi safonau? Sgil-effaith yw’r ffaith eu bod yn lleihau llwyth gwaith a biwrocratiaeth i athrawon, er ei bod yn sgil-effaith i’w chroesawu. Rwy’n deall bod materion sy’n ymwneud â llwyth gwaith yn faterion real iawn i’n hathrawon, ac rwy’n awyddus i edrych ar amrywiaeth o gyfleoedd lle gallwn ryddhau athrawon ysgol ac arweinwyr er mwyn rhoi amser iddynt ganolbwyntio ar y pethau pwysicaf. Felly, fe fyddwch yn gwybod ein bod yn edrych, er enghraifft, ar raglen o reolwyr busnes a bwrsariaid i gyflawni tasgau y gall gweithiwr proffesiynol arall eu cwblhau ar ran penaethiaid, gan adael i’r pennaeth ganolbwyntio ar ddysgu proffesiynol, datblygu’r cwricwlwm a’r addysg yn yr ysgol. Ac mae’r un peth yn wir ar gyfer athrawon unigol: rydym yn cynnal prosiect biwrocratiaeth newydd ar hyn o bryd i nodi lle rydym ni, fel Llywodraeth Cymru, yn gofyn i athrawon wneud pethau, pa un a yw hynny’n ychwanegu gwerth at ddysgu, ac os nad yw, rydym yn barod i gael gwared arno. Rydym hefyd yn cyflawni gweithdrefn chwalu camargraffiadau. Mae llawer o’r gweithwyr proffesiynol rwy’n siarad â hwy yn mynd y tu hwnt i’r hyn y gellir disgwyl yn rhesymol iddynt ei wneud, gan eu bod yn ofni, er enghraifft, y bydd Estyn yn disgwyl iddynt wneud hynny. Rydym yn gweithio’n agos iawn gydag Estyn i ddatblygu prosiect chwalu camargraffiadau, er mwyn i athrawon fod yn glir iawn ynglŷn â’r hyn y disgwylir iddynt ei wneud, ac fel nad ydynt yn mynd y tu hwnt i hynny ac yn gwneud pethau nad ydynt yn ychwanegu gwerth, ond sydd mewn gwirionedd yn achosi straen a llwyth gwaith ychwanegol nad yw ein trefn arolygu yn ei wneud yn ofynnol.
Yn eich geiriau eich hun, rydych yn edrych ar nifer o faterion, ond yn y cyfamser rydych yn rhuthro tuag at y diwygiadau i’r cwricwlwm y mae llawer ohonom wedi rhybuddio eu bod yn cronni problemau, gan nad oes capasiti yn y system fel y mae ar hyn o bryd i’r athrawon ymdopi â’r diwygiadau enfawr sydd ar y gweill. A gelwais arnoch eisoes i ymatal rhag cyflwyno’r cwricwlwm yn ôl yr amserlen bresennol, er mwyn inni allu sicrhau ein bod yn ei wneud yn gywir yn hytrach na cheisio’i wneud yn gyflym. Mae NUT Cymru, wrth gwrs, wedi ychwanegu eu llais at y galwadau hynny bellach. Felly, rwy’n gofyn i chi a wnewch chi wrando ar y proffesiwn? A wnewch chi wrando ar y rheini sy’n gweithio yn y rheng flaen sy’n dweud wrthym nad yw rhoi’r holl ddiwygiadau ar waith er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn barod i’w gyflwyno mewn, beth, 12, 16 mis, yn realistig bellach? Neu a ydych yn benderfynol o fwrw ymlaen doed a ddelo?
Yr hyn y byddaf yn ei wneud yw gwrando ar y rheini yn y rheng flaen sy’n datblygu’r cwricwlwm hwn. Mae’r syniad fod y cwricwlwm yn cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru yn unig ac y bydd yn cael ei orfodi ar y proffesiwn addysgu yn wahanol i’r ffordd y mae’r system yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Mae ein rhwydweithiau ysgolion arloesi, ein hathrawon a’n gweithwyr addysg proffesiynol yn ganolog i’r broses hon. Rydych yn hollol gywir, mae’n rhaid i ni—mae’n rhaid i mi—fod yn sicr fod y proffesiwn addysgu mewn sefyllfa i allu defnyddio’r cwricwlwm newydd cyffrous hwn, a byddaf yn cael fy arwain gan y gweithwyr proffesiynol sy’n ymdrin nid yn unig â maes profiad dysgu ond hefyd ag agweddau dysgu proffesiynol ar y cwricwlwm wrth inni symud ymlaen. Ac os oes ganddynt bryderon, byddaf yn eu hystyried.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, tynnwyd sylw eisoes at y ffaith ein bod yn wynebu argyfwng recriwtio yn ein proffesiwn addysgu, ac wrth gwrs, amlygwyd hyn gan arolwg Cyngor y Gweithlu Addysg, a ganfu fod mwy nag un o bob tri athro yn bwriadu gadael y proffesiwn yn y tair blynedd nesaf. Beth yn benodol rydych chi’n ei wneud i gau’r bwlch os bydd yr un o bob tri hynny’n gadael y proffesiwn mewn gwirionedd?
Diolch, Darren. Mae’r arolwg addysgu cyntaf erioed wedi rhoi cyfoeth o wybodaeth inni, nid yn unig ar gyfer ystadegau, ond gwybodaeth ansoddol a data hefyd, ac rydym wrthi’n ei astudio. Mae angen i ni sicrhau ein bod yn creu system addysg yng Nghymru sy’n cadw ein talent gorau yn ein system, ond sydd hefyd yn recriwtio ein hunigolion gorau a mwyaf disglair i mewn i’r system honno. Felly, fel y gwyddoch, rydym wrthi’n diwygio ein darpariaeth addysg gychwynnol i athrawon, ac rydym yn edrych ar ffyrdd newydd o ddenu rhai sy’n newid gyrfa at y proffesiwn addysgu, yn ogystal â mynd i’r afael â materion fel llwyth gwaith, y soniodd Llyr Gruffydd amdanynt, er mwyn i bobl sydd eisoes yn athrawon deimlo cymhelliant i aros yn yr ystafell ddosbarth. Rwy’n falch o ddweud bod y ffigurau recriwtio i addysg gychwynnol i athrawon eleni yn well na’r hyn a welsom y llynedd ac yn well na Lloegr mewn gwirionedd.
Cafwyd ymgyrch recriwtio enfawr yn ddiweddar ar gyfer nyrsys newydd yn y GIG yng Nghymru, gyda llawer o arian a llawer o waith hyrwyddo yn cael ei wneud mewn nifer o ffyrdd gwahanol ar draws y cyfryngau cymdeithasol, y cyfryngau print a chyfryngau eraill yn gyffredinol. Pam nad ydym yn gweld ymdrech debyg i recriwtio’r athrawon sydd eu hangen ar y system addysg yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod digon o athrawon cyfrwng Cymraeg ac athrawon pynciau STEM gennym ar gyfer y dyfodol? Oherwydd, fel arall, rydym yn mynd i barhau i lithro i lawr graddfa PISA y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fel rydym wedi’i wneud dros y 10 mlynedd diwethaf.
Hoffwn ailadrodd i’r Aelod, unwaith eto: mae ein ffigur recriwtio ar gyfer pobl sy’n dechrau cyrsiau ym mis Medi eleni yn well na’r llynedd, ac yn well na recriwtio i ddarpariaeth addysg gychwynnol i athrawon yn Lloegr. Ond wrth gwrs, mae mwy y gallwn ei wneud bob amser. Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod y pedwar consortiwm rhanbarthol, gan weithio gyda’i gilydd, wedi bod yn cynhyrchu ymgyrch recriwtio i ddenu’r bobl sydd o bosibl wedi cael digon ar system addysg Lloegr er mwyn dangos iddynt y gallant ddod i weithio mewn amgylchedd cefnogol yma yng Nghymru, ac rydym yn gweld canlyniadau o ganlyniad i’r ymgyrch recriwtio honno. Ond os oes gan yr Aelod syniadau newydd ynglŷn â sut y gallwn recriwtio mwy o athrawon, rwyf bob amser yn barod i wrando.
Rhoddaf un syniad i chi, Gweinidog, ac yn wir, rydym wedi awgrymu un yn y gorffennol, ac rydych wedi gwrando arno, yn ffodus, a’i roi ar waith. Roedd un yn ymwneud â gwella’r bwrsariaethau sydd ar gael i ddenu pobl newydd i’r proffesiwn, ac mae’r ail yn ymwneud â chael gwared â rhai o’r rhwystrau gwarthus y mae athrawon a hyfforddwyd dramor yn eu hwynebu yma ar hyn o bryd os ydynt yn dymuno dod i weithio yng Nghymru. Mae’n warthus fod athrawon sydd wedi cymhwyso dramor yn Awstralia, Canada, yr Unol Daleithiau a Seland Newydd yn gallu gweithio mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig heb orfod cwblhau cyrsiau ymaddasu, ac eto ni allant ddod i Gymru i weithio, gan gynnwys dirprwy benaethiaid a phenaethiaid. Mae hynny’n rhwystr annerbyniol i recriwtio yma yng Nghymru, a gallai helpu i atal y llu o bobl sy’n ymbellhau oddi wrth y proffesiwn o ganlyniad i enw drwg y system addysg yng Nghymru.
Wel, Darren, rydych yn codi mater difrifol. Nid wyf yn dymuno troi unrhyw dalent ymaith o Gymru, ac os oes gan unrhyw un rywbeth i’w gyfrannu at y system addysg yng Nghymru, rwy’n awyddus iddynt allu gwneud hynny. Mae fy swyddogion wrthi’n adolygu’r rheolau ynglŷn â pha gymwysterau sy’n angenrheidiol ar gyfer addysgu mewn ysgol yng Nghymru. Gadewch i mi fod yn gwbl glir: mae’r rheolau sydd ar waith ar hyn o bryd yn deillio o ymgynghoriad Llywodraeth flaenorol, lle roedd consensws clir iawn ynglŷn â’r angen am y rheolau sydd ar waith gennym ar hyn o bryd. Ond mae’n rhaid i mi ddweud, Llywydd, na fyddaf yn gwrando ar unrhyw bregeth gan Aelod Cynulliad Torïaidd pan fo’n rhaid i mi wrando ar rethreg arweinydd ei blaid ar fewnfudo. Dyma aelod o blaid sy’n treulio’i holl amser yn pardduo pobl sy’n dymuno dod i gyfrannu yn y wlad hon.