Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 10 Mai 2017.
Rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb. Nawr, efallai eich bod yn ymwybodol, Ysgrifennydd y Cabinet, o’r cynllun llysgenhadon darllen, sy’n gobeithio gwella sgiliau darllen plant drwy weithio’n agos gyda chlystyrau ysgolion cynradd yn fy etholaeth. Canmolwyd y cydweithio hwn mewn adroddiad diweddar gan Ein Rhanbarth ar Waith, gyda chynghorydd Her Ysgolion Cymru, Hefina Thomas, yn dweud ei fod wedi arwain at ‘effaith uniongyrchol ar safonau’. Yng ngoleuni hyn, a allwch ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo’r gweithgarwch hwn, er mwyn i bob ysgol ledled Sir Benfro allu elwa ar y math hwn o gydweithredu?