Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 10 Mai 2017.
Diolch, Simon. Mae’n wir dweud bod y trothwy cynwysedig Lefel 2 ac uwch yn Sir Benfro wedi gwella o 51 y cant yn 2011 i ychydig dros 59 y cant yn 2016, ac mae hwn yn welliant o 8.3 y cant yn y cyrhaeddiad ers 2011, ond nid yw ar y lefel y byddech chi a minnau’n dymuno gweld Sir Benfro. Rydych yn hollol iawn, prif gyfrifoldeb y weinyddiaeth newydd fydd mynd i’r afael â’u cynlluniau gwella ysgolion, cynlluniau trefniadaeth ysgolion, i godi safonau’n uwch byth. Fel y dywedais mewn ymateb i Paul Davies, mae’r consortia rhanbarthol, oherwydd pryderon ynghylch Sir Benfro, wedi darparu cymorth ychwanegol i’r sir a gallaf roi sicrwydd i chi y byddaf yn cyfarfod â deiliad y portffolio a’r cyfarwyddwr addysg yn Sir Benfro, fel y gwnaf yn rheolaidd gyda deiliaid pob portffolio a phob cyfarwyddwr addysg, i bwysleisio’r angen i wneud cynnydd.