<p>Addysg Alwedigaethol </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 10 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:00, 10 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried bod sicrhau bod cymwysterau galwedigaethol ar gael i bobl ifanc 14 i 16 oed yn bwysig iawn. Drwy Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009, mae pob dysgwr yn cael cynnig o leiaf tri chymhwyster galwedigaethol yng nghyfnod allweddol 4 mewn cynigion cwricwlwm lleol.