Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 10 Mai 2017.
Diolch am eich ateb, Gweinidog. Mae ysgol gynradd Parc Cornist yn y Fflint, yn fy etholaeth, wedi cael ei henwi yn ysgol arloesi ddigidol, lle mae’r pennaeth, Nicola Thomas, wedi sicrhau rhoi technolegau digidol wrth wraidd eu haddysgu a’u dysgu ac wedi cynorthwyo disgyblion i allu cymryd yr awenau yn hyn o beth. Mae’r disgyblion wedi arwain prosiectau, sy’n cynnwys codi ymwybyddiaeth, ymchwil, ac sy’n ymwneud â’u bod yn cyflawni rolau fel e-gadetiaid. Maent hyd yn oed wedi cynnal sesiwn alw heibio mewn banc lleol i addysgu cwsmeriaid ynglŷn â sut i fod yn ddiogel ar-lein. Gweinidog, a wnewch chi ymuno â mi i gydnabod bod ysgol Parc Cornist yn enghraifft o arfer orau ac annog ysgolion eraill ledled Cymru i sicrhau bod technolegau digidol yn ganolog i’w dysgu?