<p>Technolegau Digidol mewn Ysgolion Cynradd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 10 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:06, 10 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Cytunaf yn llwyr â’r hyn a ddywed yr Aelod dros Ddelyn. Mae ysgol gynradd gymunedol Parc Cornist wedi gwneud cryn gynnydd ers cael ei henwi’n ysgol arloesi ddigidol, gan ddod yn fuddugol, wrth gwrs, yn y categori e-ddiogelwch yng ngwobrau dysgu digidol cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn 2016. Mae hyn bellach, wrth gwrs, wedi’i droi yn astudiaeth achos er mwyn i eraill ddeall a rhannu’r arferion gorau hynny. Credaf fod ysgol gynradd Parc Cornist yn enghraifft wych o’n huchelgeisiau ar gyfer pob ysgol ledled Cymru: cynnwys dysgu o’r math hwn yn y cwricwlwm, a galluogi pob plentyn a phob dysgwr i brofi hynny. Rwy’n arbennig o awyddus i ni ganolbwyntio ar e-ddiogelwch. Un o brif fanteision y dyddiau hyn, yr oes hon, yw ehangder yr hyn y gallwn ei wneud ar-lein, ond ar yr un pryd, mae angen i ni sicrhau y gall pawb sy’n defnyddio gwasanaethau newydd ar-lein wneud hynny’n ddiogel.