<p>Technolegau Digidol mewn Ysgolion Cynradd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 10 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 2:07, 10 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, roeddwn yn falch o gael adroddiadau gan Ysgol Pontrobert eu bod bellach yn gallu defnyddio platfform dysgu digidol Hwb ar ôl cael uwchraddiad hirddisgwyliedig i’w band eang. Fodd bynnag, nododd y ‘Gwerthusiad o weithrediad y Rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol’, a gyhoeddwyd chwe mis yn ôl, nad oedd bron i draean yr ysgolion wedi mewngofnodi unwaith ar Hwb, a gwnaeth gyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru er mwyn gwella’r sefyllfa hon, gan gynnwys datblygu strategaeth gyfathrebu sydd wedi’i thargedu at athrawon a rhieni, a phennu targedau ar gyfer cyfraddau mabwysiadu a defnyddio Hwb. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r cynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar weithredu argymhellion yr adroddiad?