Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 10 Mai 2017.
Llywydd, cyn ateb y cwestiwn hwn, rwyf am ddatgan diddordeb, gan fod gennyf blentyn yn y system ysgolion ym Mhowys.
Cyngor Sir Powys yw’r awdurdod derbyn ar gyfer ysgolion cymunedol ym Mhowys, a’r Cyngor, felly, sy’n gyfrifol am bennu trefniadau derbyn a sicrhau bod y trefniadau hyn yn cael eu gweithredu’n deg.