Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 10 Mai 2017.
Gweinidog, mae’r cylchoedd meithrin a’r cylchoedd chwarae cyn-ysgol eisoes yn orlawn, ac mae pryder gwirioneddol, pan ddaw’r polisi derbyn i ysgolion newydd i rym ym Mhowys ym mis Medi, y bydd y pwysau ar y cylchoedd chwarae yn anghynaladwy. A gaf fi ofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynnal y pwysau ychwanegol ar y cylchoedd chwarae hyn?