<p>Ehangu Amrywiaeth Farnwrol </p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 10 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:22, 10 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb? Daw’r adroddiad i’r casgliad fod ymagwedd hollol organig tuag at ehangu amrywiaeth yn golygu bod newid yn digwydd yn llawer rhy araf, a geilw am newidiadau systematig a strwythurol er mwyn hybu newid. A yw’r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno? Pa drafodaethau a gafodd ynglŷn â sut y gall Llywodraeth Cymru gyfrannu at y broses o newid? Nid yw’n welliant enfawr os yw menyw a addysgwyd yn breifat yn dod yn lle dyn a addysgwyd yn breifat. Rydym yn awyddus i weld gwir amrywiaeth.