Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 10 Mai 2017.
Diolch am yr ateb arferol. Ydy’r Cwnsler Cyffredinol yn digwydd cytuno â fi, serch hynny, mai’r rhan o’r gyfundrefn sydd fwyaf hawdd i ddatganoli o ran y gyfraith, ac o ran cyfansoddiad hefyd, fyddai heddlua? A chan fod y Prif Weinidog wedi dweud wrth y Siambr ddoe ei fod yntau yn gryf iawn o blaid datganoli heddlua, a chan ein bod ni yn cynnal dadl o fewn ryw chwarter awr, efallai, ar y mater yma hefyd, pa gamau, felly, mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr, gyda chyngor y Cwnsler Cyffredinol, i sicrhau bod y camau cyfansoddiadol yn eu lle i ganiatáu i hynny ddigwydd?