Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 10 Mai 2017.
Wel, mae unrhyw gamau cyfansoddiadol mewn perthynas â datganoli plismona yn galw am newid yn y gyfraith mewn gwirionedd ac nid yw’n briodol i mi sathru ar draed y Prif Weinidog yn ei ddisgrifiad a’i argymhellion gogyfer ag unrhyw newidiadau polisi y teimla eu bod yn briodol. Ond wrth gwrs, gwnaeth yn glir iawn ddoe yn y Siambr hon beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â datganoli plismona.