Part of 3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 10 Mai 2017.
Diolch, Llyr. Mae prifysgolion yng Nghymru yn gyrff ymreolaethol. Fel y cyfryw, cyfrifoldeb Prifysgol Aberystwyth yn unig yw materion staffio. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw lais yn y mater hwn. Ond wrth gwrs, rwy’n deall bod y brifysgol mewn trafodaethau gydag aelodau o’r staff a’r undebau llafur ynglŷn ag argymhellion i adolygu ei strwythurau staffio.